HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Y Carneddau o Fethesda 4 Mawrth


Y rhan mwya’ heriol o’r daith yma oedd trio dal i fyny efo Sandra wrth iddi garlamu i fyny gelltydd Gerlan ar y ffordd i Gwm Pen Llafar! Buan iawn y cyrhaeddon ni’r cwm cyn croesi afon Llafar a chors Gwaun y Gwiail ac anelu am odre Braich y Brysgyll ac yna dringo’n serth at Foel Ganol lle chafwyd hoe haeddiannol. Yma, gadawodd dau o’r criw.

O’n blaenau oedd trwyn gorllewinol serth Yr Elen dan haen o eira a rhew a rhaid oedd gwisgo un ai piga’ bach neu biga’ mawr (yn ystod taith yr Alban ’leni bathwyd dau derm newydd: piga mawr – crampons a piga bach – micro spikes). I fyny â ni ac erbyn cyrraedd copa’r Elen, roedd trwch da o eira dan draed.  Dywedodd un o’r hen stejars yn ein plith: ‘dw i erioed wedi dod i fyny’r Elen y ffor yma a dw i’n gweld pam rwan!’

Yn ein blaena’ i gopa Carnedd Llywelyn cyn anelu at Foel Grach gydag ansawdd yr eira’n gwella gyda phob cam. Roedd y siapiau a grëwyd gan yr eira a’r rhew wrth gopa Foel Grach yn werth eu gweld.

Braf oedd cael tynnu’r piga’ wrth droed yr Aryg cyn anelu am Bera Bach a cherdded wrth odrau’r Drosgl, Y Gyrn, Llefn a Moel Faban ar ein ffordd yn ôl i Fethesda. Gorffennwyd y daith yn nhafarn y Siôr lle roedd canmol mawr i ansawdd y cwrw. Diolch yn fawr i Dafydd am arwain ei daith gynta’ ar ran y Clwb.

Diolch i Dwynwen am rannu’r data: Cerddwyd: 12.25 milltir; Dringwyd: 3754 troedfedd; Amser: 7.5 awr.

Y mynyddwyr egnïol oedd: Dafydd (arweinydd), Matthew, Owain, Victoria, Sonia, Siân, Andras, Keith, Eifion, Gwyn, Rhys, Richard, Dwynwen, Arwel, Mark (yr holl fordd o Gwm Gwendraeth), Sandra, Arianell ac Iolo.

Adroddiad gan Richard Roberts

Lluniau gan amryw o'r criw ar FLICKR