HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Pedol Cwm Pen Llafar 7 Hydref


Gyda niwl a glaw yng Ngharmel a Blaenau Ffestiniog, (pwy fysa'n meddwl), dymunol oedd i rai aelodau'r Clwb gael gweld Bethesda mewn Haf Bach Mihangel. Roedd yr awyr yn glir ac roedd awel gynnes ym Mhant Dreiniog.

Felly, gyda'r Carneddau yn galw, mentrodd un ar bymtheg ohonom i fynu am Gerlan ac ymlaen am Gwm Pen Llafar. Yn fuan deuthom at Afon Cwm Moch, ac yn ôl yr hen ddywediad, os yfwch ddŵr o Afon Cwm Moch, ni fyddwch yn sâl am flwyddyn. Wedi cael blas o’r dŵr bywiol, euthom at waelod Llech Du am seibiant, cyn mentro i fyny am Grib Lem. I rai o’r aelodau, roedd hon yn dro cyntaf iddynt ar y grib a gyda'r graig yn sych a’r gwynt wedi gostegu, ni chawsont eu siomi.

Ar ôl mwynhau un o glasuron y Carneddau, ymlaen â ni at gopa Carnedd Dafydd. Roedd y gwynt yn gryf iawn ar y topia, ond yn rhyfeddol o gynnes, ac roedd y cymylau fel waliau gwynt yn Nghymoedd y Glyderau. Carnedd Llewelyn oedd y stop nesa, ac wedyn ymlaen at Yr Elen. I lawr â ni, yn serth lawr trwyn Yr Elen a heibio Foel Ganol at Braich y Brysgyll. Wedi croesi Cors Gwaun Gwial, mi ddaeth sychad mawr ar bawb. Miglo hi wedyn yn dol trw Gerlan a Carneddi i Dafarn Y Sior i dorri sychad.

Braf iawn oedd cael eistedd y tu allan i fwynhau y cwrw oer a’r awel gynnes. Diweddglo da i ddiwrnod gwych yng nghwmni Arianell, Sandra, Erwyn J, Edward, Dwynwen, Sioned Llew, Trystan, Dylan, Sioned Mair, Catrin, Paul, Derfel, Eifion, Owain a Mathew. Diolch i chi am eich cwmpeini

Adroddiad gan Chris Humphreys.

Lluniau gan Sioned Llew ar FLICKR