HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Yr Eifl 9 Awst Taith Goffa Gareth Pierce


Pan gyrhaeddais  y maes parcio uwchben Nant Gwrtheyrn yn y bore roedd tri chopa’r Eifl wedi eu gorchuddio gan gymylau ond roeddwn yn obeithiol y byddent yn codi yn ystod y dydd. Ymunodd 25 o aelodau â mi ar gyfer y daith dros y tri chopa a braf oedd dweud, gyda’r Eisteddfod i lawr y ffordd  ym Moduan, bod aelodau o bob rhan o Gymru yno. Yn sicr roedd y Clwb yn Glwb Mynydda CYMRU y diwrnod hwnnw.

Ar ôl gair o groeso a mynegi’r gobaith y byddai’r cymylau’n codi’n fuan er mwyn i ni allu mwynhau’r golygfeydd godiodog sydd i’w cael yma, cychwynnwyd am Dre Ceiri, ein copa cyntaf. Ar y ffordd roeddem yn mynd heibio’r byrddau dehongli ar Lwybr Gwyn Plas a’r man gwylio sydd â golygfeydd panoramig am Ben Llŷn, Eryri a chyn belled â mynyddoedd Wicklow yn yr Iwerddon. Cyfeiriais at y rhaglen “Am Dro” a ddarlledwyd ar S4C yn ddiweddar iawn pryd yr aeth mab Gwyn Plas â chriw am dro ar hyd y llwybr mewn tywydd perffaith. Roeddynt wedi aros yn y fan hon i edmygu’r golygfeydd o’u cwmpas. Yn anffodus nid fel yna roedd hi i ni yn y niwl ac roedd yn rhaid i ni geisio dychmygu’r golygfeydd. Beth bynnag, ymlaen â ni gan fwynhau gweld carped porffor y grug o’n cwmpas. Wedi cyrraedd copa Tre Ceiri roedd cyfle i edmygu’r enghraifft wych o fryngaer o Oes yr Haearn - ond nid y golygfeydd yn anffodus. Cawsom baned mewn man cysgodol allan o’r gwynt cyn  mynd yn ein blaenau  am yr ail gopa sef Garn Ganol.

Ar ein ffordd daethom ar draws criw go sylweddol ar daith dywys gyda’r archaeolegwr Rhys Mwyn. Roeddynt i gyd yn Gymry  Cymraeg ac yn wir roedd yn nodwedd o’r diwrnod fod y mwyafrif llethol o gerddwyr ar y mynydd yn Gymry. Wedi crwydro o’r Eisteddfod ym Moduan mwyaf tebyg.

Ar gopa Garn Ganol cawsom wybod gan Gwenan mai un ddamcaniaeth am ystyr y cerflun ar ben y pwynt trig yno yw ei fod yn rhan o gôd post yr ardal. Erbyn hyn roedd yn amser cinio ond oherwydd y gwynt cryf aethom ar ein hunion am i lawr i chwilio am lecyn cysgodol i fwyta. Ymlaen wedyn am Fwlch yr Eifl lle tynnwyd y llun olaf o’r grŵp cyn ffarwelio â phedwar oedd angen dychwelyd yn gynt. Aeth y gweddill ohonom yn ein blaenau i drydydd copa’r diwrnod sef Garn Fôr. Wrth gyrraedd y copa fe gododd y niwl a’r cymylau am ychydig a chawsom awyr las am y tro cyntaf a golygfa i lawr am y traeth ger pentref Trefor – y cyfle cyntaf i dynnu lluniau a phawb wedi gwirioni!

Disgynnwyd o’r copa yn ôl i’r bwlch a dychwelyd ar hyd y trac sydd bellach yn rhan o Lwybr Arfordir Cymru yn ôl i‘r maes parcio. Wedi’r daith dychwelodd rhai i fwrlwm yr Eisteddfod ac aeth eraill am lymaid yn Nhafarn y Fic yn Llithfaen. Manteisiodd y gweddill ohonom ar y cyfle, gan fod diwrnod agored yno, i ymweld â Hafod Ceiri yn y Capel Isaf. Cawsom groeso cynnes a phaned a chacen! Bu cyfle hefyd i weld y datblygiadau ar gyfer ei wneud yn ganolfan aml bwrpas ac yn sicr roeddem i gyd yn gytun os y gwireddir y bwriad i gael caffi yng nghefn yr adeilad y bydd cael paned yno yn edrych allan ar yr olygfa o Benrhyn Llŷn drwy’r ffenestri  mawr yn sicr yn atyniad.

Llawer o ddiolch i Aneurin a Dilys (yn arbennig am ofalu am gefn y grŵp a sicrhau nad oedd neb yn cael ei golli yn y niwl), Huw a Sue Lewis, Eryl ac Angharad, Huw Williams, Meirion, Gwen Richards, Eirlys, Elin Meek, Alys, Eirwen, Roz, Gwenan, Richard a Sw, Erwyn, Osian, Sian, Nigel, Elan, Eurig a Lynwen a Ffuon. Diolch hefyd am amynedd pawb gydag amryfusedd yr arweinydd wrth iddo geisio ar adegau gael hyd i’r llwybr cywir yn y niwl!

Taith Goffa Gareth Pierce yw’r daith  a drefnir gan y Clwb yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol ers nifer o flynyddoedd bellach, er cof am un o selogion y Clwb a gollwyd yn frawychus o sydyn ac annhymig ar y mynydd. Braf felly oedd cael croesawu Lynwen ei weddw a’i nith Ffuon ar y daith a gallu eu sicrhau fy mod yn cario’r offer deffib a gyfrannwyd i’r Clwb gan y teulu ac y byddwn yn ei drosglwyddo i arweinydd y daith nesaf ar ein rhaglen, trefn sy’n  digwydd yn rheolaidd bellach.

Gobeithio y caiff y nifer oedd yn gwneud y daith hon am y tro cyntaf gyfle i ddychwelyd pan fydd yr amodau yn well i fwynhau’r holl olygfeydd godidog a geir oddi yma.
 
Adroddiad gan Iolo Roberts

Lluniau gan Aneurin, Eirwen ag Erwyn ar FLICKR