Cylchdaith Mynydd Twr 10 Mai
Cyfarfu tri ar ddeg ohonom ger morglawdd Caergybi i gychwyn ar ein taith. Ymlwybrwyd ar hyd llwybr yr arfordir gan ryfeddu ar amrywiaeth o flodau gwyllt toreithiog. Hwyliodd sawl fferi heibio a chafwyd golygfeydd diddorol o dref Caergybi a morlin Môn. Gwelwyd dau forlo ifanc yn gorffwys yn yr ogof ger Ynys Arw cyn dringo i gopa mynydd Twr. Gyda’r gwynt yn codi a chawod ysgafn roedd pawb yn awchu am eu cinio ger Ynys Lawd ble ymunodd Rhiannon a’r daith. Cafwyd cyfle i gael cipolwg ar yr adar sydd wedi ymgartrefu ar y clogwyni ar gyfer y magwraeth blynyddol, cyn ail gychwyn ar y llwybr ar hyd ochr deheuol mynydd Twr. Erbyn y prynhawn cawsom gynhesrwydd yr haul a’r gwynt i’n cefnau wrth nesáu at ardal Llaingoch a’r chwarel gerrig ger y morglawdd. Diolch i Eryl, Buddug, Gwen, Elin, Merfyn, Iona, Rhys, Nia Wyn, Alun(Fachwen), Rhiannon, Elen a Gwil am eu cwmni difyr; a diolch arbennig i Alun(Caergybi) am gadw trefn ar yr arweinydd!
Adroddiad gan Eirwen.
Lluniau gan Eirwen, Elen a Rhys ar FLICKR