HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Pedol Bochlwyd 10 Mehefin


Mae angen tywydd sych i fwynhau'r daith glasurol hon a ddim yn aml iawn allwn ni ddweud nad ydym wedi cael glaw o gwbwl yn Nghymru am wythnosau. Yn y dyddiau yn dilyn i fyny at y daith roedd y rhagolygon yn gaddo mellt a thrannau pnawn dydd Sadwrn. Dim ond un cwmwl du basiodd drosodd drwy'r dydd diolch byth ond fe gyrhaeddodd y glaw yn gynnar nos Sadwrn.  Y mwyafrif ohonom yn cyfarfod yn Sgwâr Fictoria ym Methesda am 8.30 a dal y bws i Glan Dena a chyfarfod y gweddill i gychwyn am 9.30. 15 ohonom yn cychwyn y daith.

Dilynwyd y Llwybr o Glan Dena uwchben yr A5 i waelod Tryfan. Fel arfer, does dim amser i gnesu'r cyhyrau felly roedd pawb yn teimlo'r poen nes i ni gychwyn sgrialu'r grib Ogleddol. Ar ôl tynn'r lluniau arferol ar garreg "Y Cannon" roeddwn allan o'r cysgod ac yn teimlo'r gwres erbyn ganol y bore. Braf oedd sgrialu ar garreg sych at y copa ble wnaethom bendefynnu cael cinio ar ôl i Dwynwen neidio o Sion i Sian, neu Sian i Sion!

Gan gyraedd Bwlch Tryfan fe ymunodd Janet gyda ni a fe adawodd Tegwyn a oedd angen bod adre'n fuan. Ymlaen a ni i fyny'r Grib Ddangeddog "Bristly Ridge" (am y tro cyntaf i nifer). Eryl yn gadael ar ddiwedd y Grib i fod adre mewn amser i fynd i briodas felly 14 ohonom bellach yn gorffen y daith. Doedd neb ag awydd disgwyl am eu cyfle am lun ar y Gwyliwr ond roedd pawb yn hapus sgrialu eto dros gopa Glyder Fach a Chastell y Gwynt. Ni gymherodd yn hir iawn i ni ddod i lawr y Gribyn a buan oeddwn yn farwelio a Sioned a Dwynwen er mwyn dal bws Ogwen yn ôl i Fethesda tra aeth y ddwy am y car yn Glan Dena. Roedd dipyn o broblem gyda bws fach Ogwen gan na allai gario mwy na 9 felly galwad i Dwynwen a Sioned i bigo un ohonom i fyny er mwyn nôl y car i ddod a Sandra a Gethin yn ôl i gael gorffen y diwrnod gyda peint yn nhafarn y Fic.

Braf oedd cael croesawi Sion (aelod newydd) i'r clwb yn nghwmni Matthew,  Sandra, Gethin,  Trystan,  Anna,  Andras, Nia,  Sioned, Dwynwen,  Iolo, Eryl, Tegwyn, a Janet.

Adroddiad gan Steve

Lluniau gan Steve ar FLICKR