Pen y Gwryd, dros Moel Siabod i Fetws y Coed ac yna'r Cyfarfod a Chinio Blynyddol 11 Tachwedd
Wedi cymeryd y cyfrifoldeb am arwain taith diwrnod y Cyfarfod Blynyddol roedd gen i ddau nod, cael copa (gan mai clwb mynydda yda ni) a cyrraedd yn ôl mewn pryd i pawb gael ymbincio cyn y cyfarfod. Felly, dyma benderfynu ar daith o Ben y Gwryd, dros Moel Siabod i Betws-y-Coed a mynd ati i stydio ’r map i gael hyd i lwybrau.
Am unwaith roedd rhagolygon y tywydd yn addo diwrnod braf ac felly yr unig beth o ni ’n gorfod poeni amdano oedd amseru ’r daith. Bron iawn i Gwynfor Coaches rhoi sbanar yn y wyrcs cyn i ni gychwyn drwy newid eu amserlen a canslo ’r bys 8:00 ond diolch i Elen am sbotio ’r newid ac i Tacsis Betws am gamu i ’r adwy.
Undeg pump nath gyfarfod a cael tacsi i Ben-y-Gwryd, Sandra, Arianell, Eryl, Gwyn Llanrwst, Catrin Meurig, Manon, Sioned, Anwen, Carys, Dylan, Sioned Llew, Keith Tân, Gaenor, Tegwen a fi. Yn ein cyfarfod yn Pen y Gwryd oedd Paula, Gwyn, Alice, Elen, Eirlys, Margiad a Gerallt i ’n gwneud yn griw o 22.
Efo ’r haul yn tywynnu ar Yr Wyddfa a ’i chriw dyma ddringo am Fwlch Rhiw ’r Ychen cyn dringo ’r fraich welltog i gopa Moel Siabod. Cafwyd y copa yn glir ac ar ôl y llun (neu ddau) hanfodol a tamaid i fwyta dyma gychwyn i lawr ar y llwybr sydd yn mynd o dan grib y Daear Ddu i Lyn y Foel. Cyn cyrraedd y llyn dyma ddilyn llwybr i lawr am y goedwig uwchben Dolwyddelan.
O ’r fan yma roedd ail hanner y daith yn cychwyn, taith oedd yn dilyn llwybrau amrywiol gan gynnwys Sarn Helen, y ffordd i Fryn Gefeiliau, ffyrdd coedwig ac ambell i ddarn nad oedd yn lwybr o gwbwl. Dyma lle, wythnos yn gynharach, roedd Gerallt wedi bod yn ymosod ar y mieri efo twca miniog (fel Indiana Jones) i hwyluso ’r daith. Daeth y llwybrau yma a ni allan ar yr A5 efo cwta hanner milltir i gerdded i gyrraedd y Royal Oak.
Nid yn unig oedda ni yn ôl mewn pryd i ymbincio roedd amser am beint yn Y Stablau gyntaf, y peint gorau yn ôl pawb. Wedyn cafwyd cyfarfod blynyddol llwyddiannus, swper hyfryd a noson hwyliog o sgwrsio, hel atgofion ac, ar ôl hanner nos, ambell i sialens ymarfer corff gan Gwyn.
Os na oeddech chi yno eleni, gofalwch rhoi ’r digwyddiad yn eich dyddiaduron at flwyddyn nesa…..
Adroddiad gan Dwynwen.
Lluniau o'r daith a'r cinio gan Gerallt Pennant ar FLICKR