HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Taith Aeaf yr Alban 11–18 Chwefror


Gyda’r Alban yn chwarae Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad brynhawn Sadwrn, 11 Chwefror, roedd y man ymgynnull i griw’r daith ar y noson gyntaf yn amlwg. Tafarn The Rod and Reel, dafliad carreg o’r Crianlarich Hotel.

Yma cafodd pawb a gyrhaeddodd ar y dydd Sadwrn: Richard, Marged, Anna, Keith, Dylan, Dwynwen, Gerallt, Elen, Stephen, Adrian, Dafydd, Curon, Mark, Ifan, Gareth Huws, Gethin ac Andras gyfle i edrych ymlaen at yr wythnos i ddod, rhai’n hen ffrindiau a rhai eraill yn cyfarfod am y tro cyntaf. Ymunodd Manon, Gareth a Tomos dros y dyddiau nesaf, a Catrin a Trystan yn hwyrach yn yr wythnos.

Er i’r Alban roi cweir go iawn i Gymru ar y maes rygbi, roedd llawr anwastad The Rod and Reel a gorfod cerdded allt o’ch sedd i gyrraedd y bar, yn ymarfer da cyn taclo’r Munros.

Sul 12/2

An Caisteal a Beinn a’Chròin
Aeth criw dan arweiniad Dwynwen i fyny An Caisteal a Beinn a’Chròin. Cylchdaith gyda llwybr caregog da. Cafwyd diwrnod clir a’r gorwelion yn gadwynni o fynyddoedd. Roedd yn braf cerdded heibio darnau o eira yma ac acw, ac edrych draw tuag at Cruach Ardrain a Beinn Tulaichean yn ceisio dyfalu lle roedd Stephen, Adrian a Dafydd arni gyda’u hantur hwythau.

Llongyfarchiadau i Mark ar gwblhau ei ddau Munro cyntaf a diolch i Gerallt am lun (neu ddau!) i gofnodi’r foment. Gorffennwyd y daith yn nhafarn chwedlonol The Drovers Inn a chael ein croesawu gan oen gyda dau ben, eryr ac arth. Y cyfan wedi eu stwffio.

Cruach Ardrain a Beinn Tulaichean
Y mynyddoedd gyferbyn ag An Caisteal a Beinn a’Chròin oedd yn denu Stephen, Adrian a Dafydd neu’r Tri Gŵr Doeth o Fethesda. Stephen oedd y gŵr doethaf, a bu’n rhaid iddo fod yn amyneddgar wrth aros am Adrian a Dafydd (roedd cwrw’r noson gynt wedi dweud fymryn ar eu cyflymder yn ôl Stephen).

Càrn Gorm, Meall Garbh, Càrn Mairg, Meall na Aighean yn Glen Lyon
Aeth chwech dan arweiniad Gareth ac Elen i gwblhau’r pedwar munro uchod yn ardal Glen Lyon. Roedd hi’n glir ar y copaon i’r criw yma hefyd a bu cerdded pedwar Munro ar y diwrnod cyntaf yn deimlad braf.

Llun 13/2

Beinn Ghlas, Ben Lawers ac An Stùc
Aeth y criw a fentrodd Munros Glen Lyon i fyny’r tri copa uchod gyda Tomos Ffrancon yn ymuno. Beinn Lawers yw’r degfed Munro uchaf yn Yr Alban, gydag uchder o 1,214 m.

Roedd y man cychwyn rhyw 45 munud i’r gogledd-ddwyrain o Crianlarich a’r criw yma a gafodd y tywydd gorau – awyr las a phrofi gwrthdroad y cymylau. Roedd eira caled mewn mannau a chyfle i ddefnyddio pigau mawr neu bigau bach.

Wrth i bawb hel eu pac fesul bore, daeth “Oes angen pigau bach neu bigau mawr?” yn gwestiwn a ofynnwyd yn aml. Penderfynwyd mai pigau bach a phigau mawr yw’r termau gorau am ‘micro-spikes’ a ‘crampons’ yn Gymraeg ac nid ‘cramponau’. Bydd rhaid gwneud cais i’r Geiriadur er mwyn eu cofnodi’n swyddogol.

Beinn Vorlich (Loch Lomond)
Aeth Keith, Anna a Marged i fyny Beinn Vorlich (Loch Lomond). Cerdded heibio Pwerdy Hydro Loch Sloy i fyny trac tebyg i Marchlyn, gydag argae Loch Sloy yn dod i’r golwg. Yna dilyn grisiau caregog i’r dde o’r trac i gopa Beinn Vorlich.

Roedd hi’n niwlog ar y copa a fawr ddim golygfeydd ond roedd digon o olygfa dan draed i Keith, oedd wrth ei fodd yn astudio’r mwsog. Diolch iddo am roi ‘Gwers Mwsog’ i Anna a Marged a’u dysgu bod bron i 1000 o rywogaethau gwahanol o fwsog i’w canfod yn Yr Alban.

Beinn Laoigh, Beinn a'Chleibh, Ben Oss a Beinn Dubhchraig
Gerallt, Dwynwen, Manon a Dylan – y criw ‘hardcore’ wnaeth gwblhau’r ‘epic’ yma. Cychwyn am bump y bora (ydyn nhw’n gall?!) ar ôl amcangyfrif y dylid caniatau deuddeg awr i’w cwblhau. Llwyddodd y criw i gwblhau’r daith mewn llai na hynny. Enillwyd 6,056 troedfedd o uchder a cherdded dros 17 o filltiroedd.

Bu’n rhaid defnyddio caib a phigau bach neu fawr ar adegau ac roedd ambell fan rhewllyd. Roedd hi’n glir a golygfeydd da i’r criw yma erbyn y prynhawn. Fe ddysgodd Dylan ei wers ar ôl antur tebyg llynedd a pheidio ceisio gwneud ‘Pot Noodle’ iddo’i hun yn ystod antur o’r fath. Gwell sticio at ‘snacks’! Roedd bar y gwesty yn aros amdanyn nhw ar ôl diwrnod chwedlonol - wisgi lleol i Gerallt, Disaronno i Dwynwen, gwin coch i Manon a pheint i Dylan.

Beinn Vorlich (Loch Earn)
Aeth Richard i fyny Beinn Vorlich (Loch Earn). Bu’n ddiwrnod niwlog iddo yntau hefyd ond cafodd ddiwrnod braf a gwelodd sawl grugiar ac ambell wiwer goch.

Mawrth 14/2

Beinn Challuim
Aeth y mwyafrif i gopa Beinn Challuim ac ymunodd Mathew, mab Stephen â’r daith.

Cychwyn ger fferm Kirkton gan fynd heibio mynwent hynafol  a safle priordy San Fillan.  Mae’n debyg bod meini wedi eu cerfio yno sy’n dyddio yn ôl i’r 8fed ganrif. I fyny’n serth gyda thir corsiog dan draed cyn cyrraedd llwybr caregog at y copa. Rhoddodd y mwyafrif eu pigau bach am eu hesgidiau i groesi rhan ag eira trwy’r niwl ac at y copa. Roedd llongyfarchion y dydd yn mynd i Dwynwen ar gwblhau ei 141fed Munro a chyrraedd hanner ffordd ei her o’u dringo i gyd.

Gweddill y criw
Beinn Chonzie oedd yn galw Richard, Keith, Elen, Andras, Gethin a Tomos, ac fe aeth Gareth Huws ac Ifan i fyny Meall Greigh a Meall Garbh.

Mercher 15/2

Beinn Vorlich (Loch Earn) a Stùc a’ Chròin
Aeth Mark, Marged, Anna, Gareth Everett, Gerallt, Dwynwen, Dylan, Elen, Manon a Keith i fyny Beinn Vorlich (Loch Earn). Cychwynnodd y criw ganol y bore er mwyn osgoi glaw trwm.

O’r car cyn parcio, gwelwyd sgwarnog a wiwer goch. Dyna’r ysbrydoliaeth i Gareth Everett am weddill y dydd wrth iddo chwibanu a chanu Trên Bach y Sgwarnogod gan Twm Morys tra’n dringo’r elltydd serth. Er iddi ddarogan tywydd gwael, roedd hi’n ddiwrnod sych gydag ychydig o law mân a golygfeydd panoramig o gopa Beinn Vorlich. Bu hynny’n braf ar ôl gwynt cryf yn y cymal olaf. Wrth gerdded i lawr o Beinn Vorlich, roedd Stùc a’ Chròin yn edrych yn fwgan mawr ond buan daeth i edrych yn llai ac yn haws wrth nesu ato. Sgrambl ddifyr i fyny Stùc a’ Chròin oedd yn teimlo fel rhannau o Tryfan ar adegau. Ar y ffordd i lawr llethr o sgri, roedd Gareth Everett ar y blaen a phawb yn rhyfeddu at ei sgiliau ‘sgio sgri’. Llwybr gwlyb a chorsiog yn ôl at y car ar ôl diwrnod gwych ac amrywiol o fynydda, a gweld sgwranog arall wrth adael y maes parcio.

Oban a Fort William
Gan iddi addo tywydd gwael cafodd llawer o’r criw ddiwrnod o seibiant yn Oban a Fort William. Roedd gan Dafydd bopeth oedd ar werth yn siopau dringo Fort William yn barod felly daeth yn ôl yn waglaw ond a’i waled yn llawn.
 
Iau 16/2

Cruach Àrdrain a Beinn Tulaichean
Aeth criw o 17 dan arweiniad Dwynwen ac Elen i fyny’r ddau Munro yma gan wneud cylchdaith tua 10 milltir o hyd.

Roedd ychydig o gors serth cyn cyrraedd llwybr caregog troellog a chafwyd teimlad gaeafol wrth groesi rhannau byr o eira at gopa Cruach Àrdrain. Ar ôl colli ychydig o uchder, roedd y daith i gopa Beinn Tulaichean yn raddol ac yn fer. Cafwyd antur ar y ffordd i lawr ar ôl i Dwynwen ac Elen ffeindio ffordd fyddai’n torri hyd y siwrnai wrth fynd i lawr llethr gwelltog, serth. Aethpwyd ymlaen wedyn a chroesi afon cyn dilyn llwybr gwastad yn ôl at y maes parcio.

Beinn Vorlich (Loch Earn) a Stùc a’ Chròin
Aeth Stephen, Adrian, Trystan i fyny’r uchod gan wneud yr un daith â’r criw dydd Mercher.

Gwener 17/2

Beinn Chonzie
Roedd y rhagolygon yn gaddo gwyntoedd cryfion a glaw trwm ar y dydd Gwener felly dewisodd Gerallt a Dwynwen ffordd ddwyreiniol i gopa Beinn Chonzie er mwyn cael gwell cysgod. Doedd y gwynt ddim yn rhy ddrwg tan cyrraedd y copa. Er iddi chwythu, roedd hi’n glir ac yn awyr las a gwelsant sgwarnog wen yn rhedeg ar draws y grib.

Meall Ghaordaidh
Cychwynnodd criw o 9 dewr ar ôl cinio am gopa Meall Ghaordaidh. Eto, roedd awyr las yn gwneud mymryn o wynt yn werth chweil.

West Highland Way i Crianlarich, Oban a Glen Coe
Dal y trên a cherdded rhan o lwybr y West Highland Way i Crianlarich wnaeth Catrin ac Elen a dydd diog yn The Oban Inn (Oban) ac yn The Clachaig Inn (Glen Coe) gafodd Anna, Marged a Curon.

Sadwrn 18/2

Ar ôl wythnos ardderchog o fynydda a chwmni da, dychwelodd y rhan fwyaf adref ben bore Sadwrn. Ond yn cwblhau un diwrnod arall o fynydda oedd Catrin ac Elen (Beinn nan Aighean), Trystan (Beinn Vane), Curon (Na Grugaichean) a Dwynwen a Gerallt (Sgiath Chul a Meall Glas).

Un noson hwyliog yn y bar, chwaraewyd gêm o roi ffug-enwau ar bawb yn seiliedig ar fynyddoedd/fynydda. Dyma nhw:
Gareth Everest, Dwynwen Pymtheg Copa, Anna Dablam, Marged Garn Boduan, Carnedd Dafydd, Stephen Tryfan, Curon K2, Cruach Adrian, Gerallt Pennant, Andras o’r Andes, Keith Cnicht, Dylan Elidir, Trystan Twthill, Manon Pumlumon, Richard Cefn Du, Gethin Mynydd Twr, Mark Munro, Ifan Carnedd Llewelyn, Gareth Garn, Yr Elen, Catrin Crib Nantlle, Tomos Nant Ffrancon.
Edrychwn ymlaen at weld pwy fydd yn cael eu derbyn i’r Orsedd rhyw ddydd ac yn aros yn driw i’r ffug-enwau yma wrth ddewis eu henwau gorseddol.

Diolch o galon  i Gareth Everett am drefnu gwyliau arbennig i bawb, ac i bob un a fu’n arwain ar y teithiau gan roi profiadau gwerthfawr.

Adroddiad gan Anna George

Lluniau gan nifer o bobl ar FLICKR
Lluniau gan Elen Huws Beinn Ghlas, Ben Lawers ac An Stuc ar FLICKR
Lluniau gan Gerallt Pennant o diwrnod 1 (An Caisteal a Beinn-a'Chròin) ar FLICKR
Lluniau gan Gerallt Pennant o diwrnod 2 (Beinn Laoigh) ar FLICKR
Lluniau gan Gerallt Pennant o diwrnod 3 (Beinn Challuim) ar FLICKR
Lluniau gan Gerallt Pennant o diwrnod 4 (Ben Vorlich a Stùc a' Chròin) ar FLICKR
Lluniau gan Gerallt Pennant o diwrnod 5 (Cruach Àrdrain a Beinn Tulaichean) ar FLICKR
Lluniau gan Gerallt Pennant o diwrnod 6 (Beinn Chonzie) ar FLICKR
Lluniau gan Gerallt Pennant o diwrnod 7 (Sgiath Chùil a Meall Glas) ar FLICKR