Cwm Hesgyn, Carnedd y Filiast a’r Gylchedd 13 Mai
Daeth unarddeg ohonom at Bont Mynachddwr neu Bont Nant Gau ar lafar ar fore braf oedd yn addo diwrnod hyfryd. Aethom i fyny ffordd gul a thrwy fuarth fferm Nant Hir. Yna ymlaen trwy fuarth fferm Maesgadfa, y cartref ble’r magwyd yr arweinydd heddiw, gan ddringo’n araf i gopa Craig y Garn. Roedd yr olygfa’n arbennig iawn o’r copa, oedd yn gyfarwydd i mi, ac yn llawn o atgofion chwerw felys, yn arbennig o gofio am fy niweddar frawd a’r plac ar y copa. Yn anffodus roedd yn rhaid disgyn i lawr trwy eithin trwchus (marc du yn erbyn yr arweinydd!), hyd nes cyrraedd glan yr afon Hesgyn, ond erbyn cyrraedd y bontbren roedd gwên unwaith yn rhagor ar y mynyddwyr, a’r coesau noeth ddim llawer gwaeth! Troi ein golygon wedyn tua’r gogledd, ac yn dilyn arhosiad am baned ymlaen ar drac garw heibio tyddyn Cwm Hesgyn, hyd nes cyrraedd copa Carnedd y Filiast. Roedd yr olygfa yn arbennig iawn i bob cyfeiriad, yn bell ac agos; diwrnod i flasu gwir harddwch ein gwlad, a rhyfeddu at y cwm anghysbell yma nas gwelir o unman heb fynd yno.
Ar ôl cinio, ymlaen tua’r dwyrain ar hyd ffin Ysbyty Ifan a Phenllyn, gyda maen yn y ddaear yn dynodi’r ffin bob hyn a hyn. Mae’n debyg fod “TM” yn arwyddo “Tir Mynach” ers sawl canrif. Dilynwyd y ffin ar hyd y Gylchedd heibio Waen Carnedd y Filiast, gan gael cip o Gwm Penanner oddi tanom i’r dwyrain. Yn anochel roedd yn rhaid troi i gyfeiriad y de-ddwyrain gan groesi tir garw iawn hyd nes cyrraedd “y lan” yr ochr draw a llwybr heibio llyn Hesgyn a gyda godre’r Graig Ddu yn ôl i Gwmtirmynach trwy fferm Bwlch Graianog. Yna dilyn y ffordd arw yn ôl at y ceir wedi diwrnod o gerdded ar dir garw ac anghysbell ond gyda golygfeydd fydd yn aros yn y cof yn hir.
Roedd dwy ffaith yn amlwg i mi wedi taith heddiw, o gofio’r tirwedd yn y gorffennol. Mae polisi y llywodraeth o gyfyngu’n llethol ar borri y tiroedd uchel yn golygu na ellir cerdded y tiroedd agored erbyn hyn. Yn ychwanegol mae’r fath dyfiant yn golygu na all bywyd gwyllt o unrhyw fath fyw ar tiroedd yma. Ni chlywyd cri y gylfinir na galwad y gornchwiglen ar hyd y daith, dim ond crawc ambell fran a nodau’r gwcw yn y pellter. Gwahanol iawn i fel y bu’n y gorffennol.
Diolch am gwmni ac afiaith Dafydd Dinbych, Erddyn, Tegwyn, Iolyn ac Eirlys, Iolo, Sioned Llew, Richard a Sue a John Arthur. Diolch hefyd imi gael diosg mantell taith ar dywydd glawog!!
Adroddiad gan Gwyn Williams.
Lluniau gan Sioned Llew, Eirlys a Gwyn ar FLICKR