HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Taith y Preselau 13 Mai


Deuddeg o bobl ddaeth ynghyd ar fore braf o Fai. O'r maes parcio cyhoeddus y tu ôl i Dafarn Sinc, Rhos y Bwlch, Sir Benfro, (SN075295) aethom i'r dwyrain, camu dros sticil i esgyn trwy sawl cae nes cyrraedd y llwybr i ben Foel Cwmcerwyn (536 m), sef copa uchaf y Preselau. Cawsom olygfeydd bendigedig o lawer o Sir Benfro, rhannau o Sir Gâr a Cheredigion a hyd yn oed rannau o'r gogledd pell.

Wedyn, dilyn llwybrau o gwmpas y goedwigaeth i gyrraedd Bwlch Pennant, ble aethom tua'r gogledd i gyrraedd adfeilion Tafarn y Bwlch. Dilyn llwybr i Gernos-fach, troi i'r gorllewin ac yna ymlaen i gwrdd â heol fach tua hanner ffordd rhwng Trefach a Gellifawr. Troi i'r chwith, mynd heibio i blasty Gellifawr a throi oddi ar yr heol i'r de, i fynd heibio i Ben-lan-wynt. Ymlaen wedyn i gopa Foel Eryr (468 m) a rhagor o olygfeydd godidog.

I lawr â ni i Fwlch-gwynt ac ymlaen i Fwlch Pennant. Troi i'r de drwy'r goedwigaeth ac i lawr i gyfeiriad Tafarn Sinc lle roedd pawb yn edrych ymlaen at gael diod fach dawel yn yr heulwen. Serch hynny, wrth inni gyrraedd, dyma lond bws o ferched lleol bywiog wedi'u gwisgo fel ffermwyr ar barti plu 'Caryl'. Roeddent yn awyddus i'r cerddwyr gymryd rhan wrth iddynt gwblhau eu rhestr o 'dasgau,' felly dyma Meirion ac Aled yn canu'n bersain i'r ddarpar briodferch a Lynwen a Helen yn cael reid ar gefn dwy o'r merched. Hwyl a sbri!

Diolch arbennig i Rhiannon a Clive am ymuno â ni o'r gogledd. Y deg arall oedd Nigel, Meirion, Aled, Emyr, Eileen, Lynwen, John, Eurig, Helen a Digby.

Adroddiad gan Digby.

Lluniau gan Digby ar FLICKR