HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Y Moelwynion 14 Ionawr 


Hefo rhagolygon y tywydd yn gaddo gwyntoedd cryfion a chawodydd trymion, da oedd cael croesawy dwsin o gerddwyr brwd i Ddolrhedyn i gerdded y Moelwynion. Cychwyn y daith drwy gerdded i fyny i Gwmorthin heibio hen felin y chwarel. Anodd credu mae ar un amser roedd tua phumcant o bobl yn gweithio yn y chwarel yma er ei bod yn le eitha perygl i weithio ynddo.

Ymlaen ar hyd yr hen dramffordd ar lawr y cwm. Heibio yr hen gapel ac at Chwarel Conglog. Dringo’r hen ffordd at Chwarel Rhosydd, y gwynt yn gryf ar glaw yn drwm. Mae’r chwarel 500 m uwchben y môr. Er ei fod yn le anghysbell roedd dros gant o bobl yn gweithio yma ar un amser.

Dringo drwy weddillion y chwarel i gopa Moel yr Hydd ac i lawr i’r bwlch ac yna cerdded yr hen lwybr mul o dan Moelwyn Mawr. Erbyn hyn roedd y tywydd yn gwella a’r copaon yn glir. Paned yn y cysgod cyn cyrraedd Bwlch Stwlan ac ymlaen heibio’r hen dÿ pwdwr crwn ac i fyny Moelwyn Bach mewn hafn gwelltog.

Seibiant byr ar y copa cyn dychwelyd i Fwlch Stwlan ar y llwybr arferol.

Y llechi dan draed braidd yn llithrig ar ôl yr holl law. Dros Craig Ysgafn ac i fyny Moelwyn Mawr. Golygfa dda o  Eifionydd. Castell Cricieth i weld yn glir yn yr ychydig haul. Y gwynt yn dechrau cryfhau ar y copa felly dyma ddisgyn yn sydyn yn ôl tuag at y maes parcio drwy Chwarel Wrysgan sydd yn enwog am y twnel a dyllwyd i ostwng y llechi ar yr inclên i reilffordd Ffestiniog.

Diolch i’r criw am eu cwmni - braf gweld nifer o aelodau iau ar y daith.

Croeso cynnes i Gwenllian  fel aelod newydd i’n plith.

Adroddiad gan Arwel Roberts

Lluniau gan Gerallt Pennant ar FLICKR