Cylchdro Cwm Penamnen 14 Hydref
"Taith yr enfysau!"
Prin iawn wnes i feddwl byddai’r iau o arwain taith yn disgyn ar fy ngwar mor sydyn yn fy aelodaeth o’r clwb, gan feddwl i mi ond ymaelodi ddiwedd mis Mai, ond daeth yr alwad, a braf oedd cael paratoi taith. Gan wybod bod cymaint o brofiad o fewn yr aelodaeth – gwyddwn yn iawn mai baich go ysgafn i’w chario byddai’r iau hwnnw.
Fore sadwrn, Hydref 14, dyma 23 ohonom yn ymgynull draw yn Nolwyddelan, yn brydlon i gychwyn y daith am 9:30. Rhaid i mi gyfadde – cefais ddipyn o fraw bod cymaint wedi penderfynu ymuno â’r daith – arwydd efallai fod gan yr aelodaeth unai hyder yn fy ngallu i dywysu, neu wirioneddol ddim yn fy adnabod (gewch chi benderfynu!) i gychwyn, cerdded digon braf ac hamddenol ar hyd Sarn Helen, i Gwm Penamnen, cyn gorfod dringo llwybr go serth at ochrau Pen y Bennar.
Hyd hynny, roedd y tywydd yn dal yn eithaf sych, ond daeth ychydig o newid wrth i ni gerdded tua’r copa cynta. Cawsom ambell gawod o law, a chip ar enfys – y cynta o lawer i ni eu gweld ar hyd y daith. Yn wir – collom gyfri ar sawl enfys a welsom drwy’r dydd, a dyma un aelod yn cynnig byddai “taith yr enfysau” yn ddisgrifiad da ohoni.
Wedi cyrraedd y copa cynta, - Moel Penamnen dyma oedi ychydig i gael paned a rhywbeth i fwyta, o gysgod y gwynt ar lethr dwyreiniol y copa. Un o gopaon eitha diarffordd y Moelwyn yw hon, ond gyda golygfeydd digon trawiadol. O’r copa, gellid gweld sawl llyn a chwarel – Llynnoedd Barlwyd, Bowydd, Ystradau,Traws a Chonwy, a chwareli Yr Oakeley, Llechwedd, Maenofferen, Diffwys a Bwlch, a’r dref a fagwyd ar y chwareli hyn: Blaenau Ffestiniog!
Wedi’r egwyl, dyma ailgychwyn ar ein taith, a cholli ychydig o uchder, wrth gerdded dros Foel Bowydd at gyfeiriad Tramffordd Rhiwbach. Os oedd y cerdded ychydig yn anodd drwy grug a chors Moel Bowydd, roedd y cerdded dipyn brafiach ar hyd y dramffordd at Llyn Bowydd. Ger y llyn, ffarweliom a thri aelod, John Arthur, Eifion a Gwyn (crwi Llanrwst), a benderfynodd hepgor yr ail gopa, a chario mlaen ar hyd y dramffordd a dychwelyd i Ddolwyddelan.
I fyny aeth y gweddill ohonom i gopa’r Graig Ddu (neu’r Manod Mawr North Top, yn ôl Mr a Mrs Nutall!). Cawsom saib arall ar y copa, a mwynhau’r golygfeydd. Er y cawodydd, roedd yr awyr yn rhyfeddol o glir, a hawdd iawn oedd gweld rhai o Fryniau Clwyd a’r Berwyn, a hefyd fynyddoedd Yr Arenig, Rhinogydd, gweddill y Moelwynion, ynghyd â chewri Eryri – Yr Wyddfa, Glyderau a’r Carneddau. Oddi tanom, yng nghrombil Chwarel Manod, y storwyd gwaith yr Amgueddfa Genedlaethol dros gyfnod yr ail ryfel byd. Mae rhai yn honni y cadwyd y Tlysau Brenhinol yno hefyd, ond tybiaf mai dipyn o “stori gwneud yw honno”!
Wrth i ni orffen ein egwyl, dyma’r glaw yn dychwelyd, a felly ymlaen â ni, i lawr o’r copa yn ôl at y dramffordd. Cawsom gawod cenllysg go drwm a phoenus ar y ffordd i lawr, ond eto, ein gwobrwyo gan sawl nenfys arall yn y pellter. Wedi cyrraedd y dramffordd, ymlaen â ni drwy hen chwarel Cwt y Bugail, lle gwelwyd olion y diwydiant Llechi – diwydiant fu mor bwysig I’r ardal
dros y blynyddoedd – ac yn dal i fod, er ar raddfa dipyn llai. Rhaid oedd croesi ychydig o gorsdir cyn anelu am Fryn Hafod Fraith, ac i fyny’n weddol hamddenol at gopa Y Ro Wen, copa ola’r dydd. Roedd y cerdded dipyn haws lawr yn ôl i’r pentref gan fod trac fferm yn arwain pob cam o’r copa, i lawr i Ddolwyddelan. Er y cerdded go hawdd, cawsom ambell gawod ysgafn ac ambell i enfys eto i wobrwyo’n llygaid.
Wedi ffarwelio â rhai, dyma lond llaw ohonom yn manteisio ar dafarn y Gwydyr, am lymaid i dorri syched, a gwylio gêm Cymru v Ariannin…
Carwn ddiolch o waelod calon i bawb a ymunodd ar fy nhaith gyntaf, ac am wneud hi’n achlysur mor hawdd a hwyliog. I Dafydd, Paula a Gwyn, Nia, Susan ac Elin Jones; criw hwyliog Llanrwst – John Arthur, Eifion a Gwyn, Susan Roberts, Dilys ac Aneurin, Sandra, Dafydd; criw ‘Pesda- Chris, Garri, Derfel ac Edward, Charles, Dwynwen, Eirlys ac Iolyn, ac Eryl o Gricieth, oedd yn ymuno â ni ar ei daith gynta.
Adroddiad gan Erwyn Jones.
Lluniau gan Aneurin ar FLICKR