HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Bontddu 15 Tachwedd


Cafwyd diwrnod digon braf ar gyfer y daith hon gydag ychydig o haul, er ei fod yn ddigon gwlyb o dan draed ar ôl glaw trwm yn gynharach yn yr wythnos.  O’r maes parcio yn y Farchynys, esgyn heibio Caerdeon, lle cafwyd stori’r hen eglwys gan Eryl.  Cafwyd seibiant am stori arall ganddo o flaen Bwlch yr Eglwys.  Ar ôl paned bach mewn llecyn cysgodol, ymlaen â ni ar hyd yr hen ffordd drol i Fwlch y Rhiwgyr, gan basio’r garreg filltir hynafol.  Troi o’r ffordd i gael ein cinio mewn corlan go gyfleus, cyn ymweld â Cherrig y Cledd, carreg a gafodd ei hollti yn ddwy gan gleddyf Arthur pan oedd yn ymladd yn erbyn y Rhufeiniaid, yn ôl y chwedl.  Mae hoel y cleddyf i’w weld yn ddigon plaen yn y ddwy hanner o’r graig.

Ar y daith - Eryl, Angharad, John Arthur, Arwel, Erddyn, Buddug, John Williams, John Parry, Elen, Gwil, Anet, Margiad, Iolyn, Eirlys, Raymond, Tudor, Mair ac Iona.

Adroddiad gan Raymond.

Lluniau o'r daith gan Raymond, Elen ac Arwel ar FLICKR