Y Foel Goch 16 Rhagfyr
Wrth gychwyn o ‘Stiniog, roeddwn yn meddwl mai diwrnod gwlyb a niwlog oedd o’n blaen, ond wedi cyrraedd pentre Llangwm, roedd y tywydd ychydig yn brafiach, gyda mymryn o niwl ar y topia, ond pawb yn o gytun y byddai’r niwl wedi hen glirio erbyn cyrraedd y copa.
Doeddwn i ddim yn rhy siwr faint byddai’n troi fyny i’r daith, gan isawl un ymddiheuro dros y pythefnos cynt, na fyddent yn gallu ymuno, gan fod partion Dolig gwaith ac ati yn digwydd dros y penwythnos, ond erbyn nos Wener, roedd 9 neges o gadarnhad wedi fy nghyraedd!
Gan i bawb gyrraedd Llangwm mewn da bryd, cawsom gychwyn ein taith, ychydig gwell na phrydlon, gan gychwyn cerdded rhyw pum munud yn gynt na’r bwriad – pawb yn eiddgar am daith ola’r flwyddyn.
Cerdded digon haws i gychwyn, trwy’r pentref at gyfeiriad y Capel, cyn troi i’r chwith, i ganlyn y trac sy’n arwain i Gwm Llan. Ar ddiwedd y ffordd Tarmac, rhaid oedd gweithio’r coesau ychydig yn galetach, er mwyn dringo’r ysgwydd tuag at y copa. Er mor bell oedd y copa i’w gweld o’r Cwm, buan iawn y cyrhaeddom ein nod cynta – Y Foel Goch.
Yn wahanol iawn i’r llonyddwch a gawsom yn y pentre, gwyntoedd eitha cryf oedd i’n croesawu ar y mynydd, ac er siom i ni gyd, doedd y niwl heb ildio. Mwy fyth o siom i Gwyn Llanrwst, gan iddo obeithio cael dangos ei gynefin, a’r man lle’i magwyd, ar ochr Y Bala o’r mynydd. Cellweiriodd ychydig ei fod wedi cysidro gofyn i ni ymgrymu ger bron, ond roedd yn pryderu y basem i gyd yn gwrthod!!
Cawsom hefyd hanes gan Gwyn, bod y copa hwn yn yn lle sanctaidd gan y Romanis, gyda llwch y diweddar Dr Samson (a llawer Romani arall) wedi i gwasgaru ar draws y copa.
Ar ôl chwilota am gysgod, ac ysbaid am baned a rhywbeth sydyn i fwyta, ymlaen a’r daith, i gyfeiriad Y Garnedd Fawr. Roedd y niwl dechrau rhyw gilio erbyn hyn, ac yn cynig ychydig o olygfeydd cyfyngiedig o ardal Y Bala, Bryniau Clwyd, ac ychydig o Eryri.
Gan fod hyrddiadau’r gwynt yn dal i’n gwthio, byr iawn bu’r oedi ar y Garnedd Fawr, ac anelu lawr, yn o sydyn y gwnaethom, gan ddilyn y ffens at gesail Cerrig y Gordref.
Cafwyd pwyllgor sydyn ger y giat, a’r penderfyniad unfrydol am ysbaid arall, o gysgod y gwynt, i ddarfod ein bwyd a diod, a chyfle i rhoi’r Byd yn ei le.
Wedi’r egwyl, roedd y cerdded dipyn haws, gan fod y gwynt ‘di tawelu cryn dipyn wrth i ni ddynesu i mewn i’r Hen Gwm, a phasio heibio tyddyn Rhyd yr Ewig, ac i lawr at Ffermydd Aerddren. Yma wrth basio drwy y buarth, cawsom sgwrs byr hefo’r hawddgar Llyr Aerdden, a chydig o dynnu coes hwylgar. (Roeddwn wedi ei rybuddio eisioes y byddai’r Clwb yn meddianu Llangwm ar y dydd hwn!)
I ddarfod, dilyn y ffordd tarmac, sydd ddipyn hirach na’r meddwl, yn ôl i’r man cychwyn.
Rhyw gwta 4 awr gymrodd y daith yn ei chyfanrwydd, yn rhyfeddol o sydyn, nes i un aelod gynnig, gyda’i dafod yn sownd yn ei foch, y dylsem ystyried gwneud rownd arall o’r daith, i’w hirhau. Dichon yw dweud, ni eilwyd ei gynnig gan neb!
Carwn ddiolch I’r criw hwyliog am ymuo a’r daith, a gwneud fy nhasg o arwain yn bur hawdd, ac yn iau yn faich ysgafn iawn i’w chario a braf oedd clywed bod pawb wedi mwynhau’r daith, er siom y niwl a’r gwynt ar y topia.
Y criw oedd: Gaenor, Trystan, Huw Mallwyd, Elen Huws, Gwyn (Chwilog), John Arthur, Margiad Corwen, a Dafydd “Legal”. Diolch arbenig hefyd I Gwyn Llanrwst, am ei hanesion difyr, a’I wybodaeth trylwyr o’r ardal, a’i hiwmor parod!
Adroddiad gan Erwyn.
Lluniau gan Erwyn ar FLICKR