O’r môr i’r môr dros y miloedd 17 Mehefin
Yn ôl yr arfer ar ddiwrnod cyn taith hir, mi fuo na lawer o astudio rhagolygon y tywydd (a gwir obeithio nad oedd y glaw a’r mellt oedd wedi ei darogan yn digwydd) a siopa am doman o fwyd.
Nath y criw gyfarfod yn oriau mân y bore yn Abergwyngregyn ac er i Andras gael ychydig o drafferth efo’i gloc larwm dyma gychwyn am 3:00 ar ei ben. Y criw hwyliog yn cynwys Anna, Sandra, Gethin, Andras, Iolo, Trystan, Sonia, Erwyn a Michelle o Faesteg ar ei thaith gyntaf gyda’r Clwb.
Dyma gychwyn am y Carneddau heibio pen uchaf rheadr Aber ac wrth ddringo’n serth drwy’r grug am y Bera dyma’r glaw yn dod. Saib bach yn y cwt ar Foel Grach i wisgo mwy o ddillad, ac er gwaetha’r tywydd poeth diweddar roedd angen dillad glaw llawn a menig. Ymlaen wedyn dros gopaon Carnedd Llywelyn a Dafydd cyn disgyn lawr heibio Ffynnon Lloer i Glan Dena gyda’r glaw wedi cilio erbyn hyn.
Cyfarfod Gerallt am ein seibiant cyntaf yn Ogwen ond y gwybed yn gorfodi arhosiad byr ac yn ein gyrru ar ein ffordd fyny am Lyn Bochlwyd yn reit handi. Wrth ddringo’r Gribin dyma ddod ar draws Keith Tân oedd wedi dod i’n cefnogi ni. Roedd gweld Keith yn hwb mawr i’r criw a chyrhaeddom gopa Glyder Fawr mewn chwinc a disgyn lawr i Pen y Pas yn gyflym wedyn.
Yn Pen y Pas roedd Gerallt wedi swyno swyddogion y Parc a chael parcio mewn lle hwylus ar gyfer ein ail seibiant. Roedd hefyd wedi bod yn siopa a phrynu caniau coffi espreso. Ar ôl un o’r caniau yma hedfanodd Sandra i fyny i Fwlch Moch a gweddill y criw yn gweithio yn galed i ddal fyny. Roedd pawb yn teimlo bod llwybr PYG yn llafurus, y torfeydd ar y llwybr ddim yn helpu. Roedd Bwlch Glas fatha Picadili felly symyd yn sydyn i gopa Canrnedd Ugain a nôl am gopa’r Wyddfa oedd fatha ffair. Wrth ddisgyn lawr llwybr Rhydd Ddu dyma adael y torfeydd yn sydyn a chael golygfeydd godidog wrth i’r haul ddod allan.
Ar ôl seibiant yn Rhyd Ddu, lle bu dipyn o sylw i draed a doluriau eraill (neb i holi…), dyma gychwyn am Fwlch y Ddwy Elor lle gwnaeth gweld y môr fywiogi pawb. Cafwyd noson hyfryd i gerdded lawr Cwm Pennant gyda’r golygfeydd yn helpu pawb i anghofio am eu traed poenus.
Dyma gyfarfod Gerallt am y seibiant olaf yn Ngwm Ystradllyn gyda diwedd y daith o fewn golwg. Mae’n rhaid fod Anna wedi ffroeni cwrw Porthmadog gan iddi wibio i ben Cwm Mawr mewn chwinciad. Lawr allt pob cam wedyn a dim ond gorfod goleuo lampau pen yng nghoed Nyrseri Tremadog.
Er i ni gyraedd bar y Sportsman am 10:35 roedd stop tap wedi bod am 10:30 felly dim amdani ond i’r ardd yn Stryd Wesla a chwrw haeddiannol i bawb. Wrth yfed cwrw a llongyfarch ein gilydd byr oedd yr amser cyn i’r mellt oleuo’r awyr a’r glaw taranau ein hel i mewn i’r tŷ i orffen dathlu a phawb yn falch nad oeddem ni yn dal ar y mynydd.
Ar ôl bod ar ein traed am nesa peth i 24 awr roedd pawb wedi blino yn racs ond roedd gan un ddigon o egni (neu newyn) i gerdded i siop kebabs Caernarfon – gewch chi ddyfalu!
Diolch i bawb am ddiwrnod bythgofiadwy ac am fod yn griw rhyfeddol o hapus a siriol drwy’r dydd. Diolch i Keith am ddod i’n cefnogi ar y mynydd ac ar y diwedd. Diolch mawr iawn i Gerallt am ein cefnogi trwy’r dydd, pawb yn gwerthfawrogi cael eu bwyd a’u gêr ar gael yn y mannau seibiant.
Be fydd yr her nesa….
Adroddiad gan Dwynwen
Lluniau gan Dwynwen, Sonia, Sandra, Erwyn, Keith ac Anna ar FLICKR