HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Taith Gylch Talybont 18 Chwefror


Lleoliad: Cronfa ddŵr Talybont-ar-Wysg. Glyn Collwn – Cwm Caerfanell
Tywydd: Cymylau isel, glaw man, Gwynt cryf. Tua 10 gradd C.

Daeth naw aelod [ac un darpar aelod!], at y man cychwyn – y maes parcio 500 m i’r gogledd o argae cronfa ddŵr Talybont. Wnaethom ni cychwyn am 09.30. Cerdded tua’r de at yr argae ac wedyn troi i’r dwyrain i groesi’r argae. Ochr draw, troi tua’r de i ymuno a Llwybr Taf/Ffordd-y-bannau. Am yr 8 km nesa, esgyn yn raddol i le mae’r llwybrau yn croesi’r heol mynydd [sy’n cysylltu Talybont a Phontsticill ger Merthyr]. Er yn undonog, roedd ambell ffaith diddorol ar y rhan gynta e.e., Canolfan awyr agored Pant-y-rhiw oedd gynt yn orsaf rheilffordd [Tybiaf?]. Ychydig cyn cwrdd a’r heol mae’r pen gogleddol y twnnel trwy’r mynydd o’r Torpantau; ar adeg yr adeiladu, hwn oedd y twnel uchaf yn y DU. Mae’r daith gerdded, nes cwrdd a’r fan yma, yn dilyn y cwrs y rheilffordd oedd arfer rhedeg rhwng Merthyr-Tudful ac Aberhonddu.

Wrth cyrraedd yr heol mynydd, troi i’r dwyrain ychydig at y maes parcio lle gawsom ni baned a thamaid o fwyd, cyn troi tua’r gogledd ag esgyniad serth sy’n arwain at Craig-y-fan-ddu [neu grisiau i’r nefoedd i rhai!]. Doedd y tywydd ddim yn nefolaidd yn anffodus – gwynt gryf a glaw mân. Gweld dim nes cyrraedd tir gwastad a chroesi nant Blaen Caerfanell a dilyn Graig Fan-las, lle oedd yn bosib gweld Cwm Caerfanell tua’r de-ddwyrain – nodweddiadol o’r cymoedd sy’n arwain o grib y Bannau dwyreiniol. Diwedd Graig Fan-las mae’r tir yn cyrraedd bwlch [y Dwyallt]. Fan hyn wnaethom ni droi tua’r dwyrain, yn y gobaith y byddai’r gwynt yn ein hwyliau! Nag oedd! Roedd hi’n jyst mor fiaidd yn gwneud ein fordd dros Waun rydd i gyrraedd Carn-Pica [sy’n dadfaelio!]. Dim ond ar ôl Carn pica wnaeth hi ostegu ac fel aethom ni ymlaen dros Twyn Du, oedd hi’n bosib cynnal sgwrs heb sgrechian!.

Unwaith gyrraeddon ni llwybrau trwy’r caeau a lonydd fferm, roedd y diwedd yn agosau.

Diwrnod da ar y cyfan – Pawb yn iach, grŵp ddim wedi gwasgaru, tywydd yn anffodus ond mi wnaeth diod bach mewn tafarn yn Nhalybont byd o les i ni!

Cyfanswm pellter: 19 km [11.75 milltir]; esgyniad: 700 m [2300’]; amser: 6 awr 10 milltir.

Adroddiad gan Bruce Lane

Lluniau gan Dewi Hughes ar FLICKR