HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Gwaith mango'r Moelfre a'r Foel Wen, Cwm Nantcol 18 Chwefror


Ymunodd deg aelod arall gydag Iolyn a minnau, i fynd ar y daith i ben y Moelfre ac ar hyd llwybr gwaith mango y Foel Wen. Yn anffodus bu’r niwl trwchus yn gydymaith inni drwy’r dydd hefyd!

Cyfarfu pawb yn Nhyddyn Llidiart, cyn mynd gyda’n gilydd mewn tri char drwy’r gatiau i Ben yr Alltfawr, ble y buasai yna olygfa wych i’w gweld, heblaw am y niwl! Rhaid oedd cerdded yn ôl sbel at ran o lwybr Taith Ardudwy ar odre’r Moelfre, ble mae peth olion o’r gwaith mango (“manganese”) a fu’n ddiwydiant eithaf pwysig yn hanes Ardudwy yn yr C19 hyd at ddechrau’r C20 (Mae mwy o wybodaeth am y diwydiant mango ar wefan hendrecoed.org.uk/Merioneth-Manganese).

Cyn cychwyn i fyny’r llwybr cafwyd sbec dros y wal gerrig ar furddun Llam Maria, fydd yn cael sylw, oherwydd ei hanes trist, ar un o raglenni Cynefin yn y dyfodol. Gadawyd llwybr Taith Ardudwy er mwyn dringo i fyny gyda wal y ffridd at ei chornel, ble y cawsom egwyl i gael paned. Tra yno, cliriodd y niwl am eiliad gan roi cip sydyn inni o Lŷn a thonnau Bae Ceredigion yn torri ar y traethau, cyn cau fel llen unwaith yn rhagor!

Ymlaen â ni wedyn, dros y gamfa a dringo y darn serth olaf hyd at gopa y Moelfre. Er fod golygfeydd gwych i’w cael yno ar ddiwrnod clir, nid oedd hwn yn un ohonynt, gan fod y niwl yn drwchus, ac ‘roedd yn wlypach ac yn fwy gwyntog ar y copa, felly ni oedwyd cyn cychwyn i lawr gan anelu am Gwm Nantcol y tro hwn. Dilynwyd y wal derfyn sydd yn rhedeg gyfochrog â lefel uchel hen waith mango y Moelfre, hyd at gamfa arall. Wedi croesi’r gamfa, anelwyd am yr hen ffordd drol sydd yn rhedeg i lawr o’r gwaith, gan ei dilyn, cystal ag y gellid i lawr y ffridd. Cafwyd egwyl i gael cinio nepell o adfeilion hen efail a berthynai i’r gwaith. Ymunwyd â’r ffordd sydd yn mynd i ben draw Cwm Nantcol, ond nid oedd raid mynd cyn belled â hynny i gyrraedd y llwybr sydd yn dilyn gwaith mango y Foel Wen.

Unwaith ‘roeddem ar lawr y cwm, cododd y cymylau oedd yn cuddio y Rhinog Fach a Llethr, ond aros i lawr wnaeth y cymylau dros y Moelfre ac y Foel Wen, er eu bod yn is! Un oedd wedi dod ar y daith oedd Gwenda Davies a oedd wedi cael ei magu yn Llanbedr, a thrwy ddod ar y daith, wedi cael gwireddu ei breuddwyd o gerdded i ben y Moelfre unwaith yn rhagor. Penderfynodd beidio ag ymuno â ni ar y Foel Wen, ond yn hytrach cafodd groeso mawr gan ei ffrindiau yng Nghilcychwyn.

Ymlaen aeth y gweddill ohonom i fyny’r llwybr serth am y gwaith mango ar y Foel Wen, gyda’r niwl yn dal yn gydymaith inni! Er na welwyd golygfeydd godidog Cwm Nantcol, ‘roedd sawl un wedi hoffi’r llwybr ac wedi penderfynu dychwelyd eto ar ddiwrnod cliriach.

Daw’r llwybr i lawr yn ôl i’r ffordd ger ffermdy Cefn Cymerau Uchaf a rhaid oedd troi yn ôl i fyny’r cwm ar hyd y ffordd, gan groesi afon Nantcol, i gyrraedd Penisa’r Cwm. Troi oddi yno i fyny’r llwybr sydd yn codi drwy’r caeau i gyrraedd maes parcio Pen yr Alltfawr. Yno yn aros amdanom oedd Gwenda ac Alun, Cilcychwyn.

Braf oedd cael cwmni pawb yn Nhyddyn Llidiart wedi’r daith am baned a sgwrs .

Hoffwn ddiolch i Meirion a Nia, Margaret, Gwenda Davies, Arwel, Gwyn (Llanrwst), John Arthur, Gwen (Chwilog), Gwyn (Chwilog), ac Anet am fod yn gwmni mor wych i Iolyn a minnau ar y daith a pharhau yn siriol er gwaethaf y niwl!

Adroddiad gan Eirlys Wyn

Lluniau gan Eirlys ar FLICKR