Rhyd Ddu i Dremadog 18 Mawrth
Efo rhagolygon y tywydd yn eithaf da, addewid iddi fod yn sych, dyma gyfarfod yn Nhremadog i ddal y bws i Rhyd Ddu.
Y criw brwdfrydig yn cynnwys Mathew, Owain, Sonia, Cian, Arianell, Sandra, Keith Tân, Iolo, Gerallt a Tegwen ar ei thaith cyntaf efo’r Clwb.
Wedi i pawb fwynhau y “scenic route” rownd Llanfrothen dyma gyrraedd Rhyd Ddu a cychwyn am Fwlch y Ddwy Elor. Yn anffodus bu’n rhaid i Tegwen droi nôl cyn cyrraedd y bwlch, diolch yn fawr i Gerallt am fynd nôl lawr efo hi a’i thywys i Feddgelert. Ymlaen a gweddill y criw a chael paned ar gopa Moel Lefn cyn mynd dros Moel yr Ogof a fyny talcen serth Moel Hebog o Fwlch Meillionen. Yn anffodus gweld dim yn y niwl a hwnnw yn gwneud cael hyd i’r llwybr serth i lawr Moel Hebog am Yr Ogof yn dipyn o sialens.
Ymlaen wedyn dros dir garw di lwybr am gopaon Bryn Banog, Moel Ddu a Mynydd Gorllwyn cyn disgyn lawr Cwm Bach i Dremadog. Y tri copa yma yn rhai newydd i chwech o’r criw. Erbyn hyn roedd y glaw yn drwm a’r gwynt di codi felly braf iawn oedd medru cerdded syth i fewn i’r Union a chael croeso cynes a peint neu ddau.
Keith Tân wedi ei blesio yn arw cael bod yn ei dafarn leol a Gerallt wedi ail ymuno a ni. Diolch i bawb am eu cwmni siriol er yr amodau.
Adroddiad Gan Dwynwen Pennant.
Lluniau gan amryw o'r criw ar FLICKR