HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Carnedd Gwenllian 18 Tachwedd


Cychwynodd 10 ohonom o faes parcio Pant Dreiniog ym Methesda ar fore gwlyb a gwyntog. Parch mawr i'r trŵps am fenro allan mewn amodau mor heriol.  Braf oedd cael cwmni Erwyn, Arianell, Sandra, Andras, Trystan, Alie, Keith, Anna a Steve. 

Mi nes i benderfynu newid llwybyr y daith i osgoi croesi'r afon yng Nghwm Afon Goch ac felly y bwriad oedd codi o Bethesda heibio Bera Bach, ac yna troi am Llwytmor gan osgoi Carnedd Gwenllian a Foel Fras. Rhwng y man cychwyn a giat y mynydd, roedd y tywydd i weld yn ffafriol, ond yna, o nunlla, mi nath y glaw gychwyn, ac oedd o hefo ni wedyn am rhan fwyaf o’r daith. Roedd y gwynt yn ffactor hefyd, ac roedd rhaid cadw pawb hefo'i gilydd wrth in ni ddringo Gyrn Wigau. Yn ffodus, doedd y niwl ger Bera Mawr ddim digon trwchus i orfod defnyddio cwmpawd. Ar ôl cysgodi a bwyta ychydig, penderfynwyd byrhau'r daith gan osgoi Llwytmor a Foel Fras; roedd y tywydd yn ein herbyn ni a’r gwynt yn hyrddio. Roedd pawb yn hapus i ymweld â Charnedd Gwenllian yn unig.

Bwyton ni ginio sydyn ar gopa Carnedd Gwenllian, ac yna i lawr â ni am Gyrn Wigau gan osgoi Bera Bach; y freuddwyd o beint yn Tŷ Mo yn ein cadw ni'n fynd er gwaetha’r gwynt a'r glaw. Disgynodd deg enaid dewr drwy strydoedd troellog Bethesda, a gwneud barman lleol yn ddyn hapus iawn.

Adroddiad gan Matthew Williams  .

Lluniau o'r daith gan Matthew ar FLICKR