HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Sgramblo ar y Gribyn a’r Lliwedd 20 Awst


A finnau yn arwain taith am y tro cyntaf i’r Clwb, daeth Storm Beti ar y dydd Sadwrn a chwythu fy nghynlluniau’n racs! Efo’r Met Offis yn darogan gwyntoedd cryfion cyson o 50 mya a hyrddiau dros 60 mya, gohirio fu raid tan y dydd Sul ble cyfarfu Eryl, Dafydd (Legal) a finnau ym Mhen y Gwryd a chychwyn am Ben y Pass.

Cafwyd cawodydd o law trwm peth cyntaf, ond fe gilion yn sydyn. Distaw oedd Llwybyr y Mwynwyr am fis Awst, ac fe’i dilynon hyd at Lyn Glaslyn. Rhaid oedd cymeryd ychydig o ofal wrth groesi’r afon gan bod cryn dipyn o lif, ac fe gafwyd paned a hoe cyn cychwyn i fyny’r Gribin. Gwelsom neb arni, nes cyrraedd bron at Fwlch y Saethau, ble roedd dau am ei defnyddio i fynd i lawr. Cafwyd sgwrs gyfeillgar am ei natur a sicrhau eu bod yn dallt beth oedd o’u blaenau, cyn i ni fynd ymlaen am Lliwedd ac i chwilio am gysgod o’r gwynt i gael cinio.

Ar ôl cinio, daeth yr haul i wenu arnom wrth i ni sgrialu am y copa a draw am Gallt y Wenallt. Yma, ceir golygfeydd gwych o’r Wyddfa y tu ôl i ni draw am y Cob ym Mhorthmadog ac Ynys Gifftan, ac yn y pellter, gallwn weld yr Arenig yn glir (diolch Eryl!). Disgyn yn serth wedyn trwy Cwm Dyli i lawr i’r Pwerdy ac yn ôl am Ben y Gwryd ar hyd y llwybyr.

Bu’r tywydd yn ffeind a diolch i Eryl a Dafydd am eu cwmni.

Adroddiad gan Trystan Evans

Lluniau gan Trystan ar FLICKR