HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Capel Curig i Ben-y-Pass 21 Ionawr 


Roeddwn wedi disgwyl rhywfaint o dywydd gaeafol ar daith Arwel ar y Moelwynion y dydd Sadwrn cynt ond cyrhaeddodd hwnw dros nos ac erbyn bore dydd Llun roedd mynyddoedd Eryri yn edrych yn Alpaidd. Erbyn dydd Gwener cliriodd yr awyr, fe ddaeth yr haul allan a penderfynais bod diwrnod o wyliau yn angenrheidiol. Tydi dyddiau gaeafol gyda amodau mor berffaith ddim yn digwydd yn aml. Erbyn i mi gyrraedd adref ar ol diwrnod heb ei ail ar y Carneddau dydd Gwener roedd gen i gryn dipyn o negeseuon i ymateb iddynt am y daith dydd Sadwrn.

20 ohonom yn cyfarfod yn y maes parcio tu ol i siop Joe Brown yng Nghapel Curig i gael y llefydd parcio olaf erbyn 9.15. Bu bron i mi awgrymu rhoi cramponau ymlaen yn y maes parcio ond roedd yr amodau dan draed allan ar y mynydd ddipyn haws ar y cyfan. Roedd gennym nifer o aelodau iau gyda ni yn symud llawer cynt na'r arweinydd a'i gwneud hi'n heriol i'r milwyr oedd allan yn ymarfer mordwyo i gadw i fyny gyda nhw! Fe wnaethom amser da i gyraedd copa Gallt yr Ogof ac o hyny'n mlaen roedd yr eira dros ein pen gliniau mewn llefydd. Gwaith caled codi coesau! Er i’r awyr las ildio i gymylau uchel fel aeth y diwrnod yn ei flaen, roedd y golygfeydd am filltiroedd o gwmpas o fynyddoedd wedi’u capio gan eira yn gwneud hwn deimlo fel un o'n teithiau gaeafol yn yr Alban (rhai ohonynt o leiaf). Cyrhaeddom gopa Glyder Fach cyn cinio. Doedd dim gwaith sgrialu tuag at y copa y tro hwn oherwydd yr holl eira!

Petawn ni wedi penderfynnu cael llun ar y Gwyliwr byddai wedi bod angen i pawb roi cramponau ar eu traed. Roedd hi braidd yn oer erbyn hyny felly penderfynwyd ail symud er mwyn cnesu. Dewisodd Eryl a Matthew yr opsiwn fwy anturus o sgrialu dros Gastell y Gwynt tra fu'r gweddill yn parhau o'i amgylch. Ar ôl seibiant byr ar gopa Glyder Fawr i lawr a ni drwy eira twfn gyda golygfa anhygoel o'n blaenau o Bedol y Wyddfa.  Roedd hi'n braf cyrraedd hanner awr cyn y Sherpa ym Mhen y Pass gyda digon o amser i dorri syched yn bar yr hostel cyn dychwelyd i Gapel Curig. Ffordd berffaith i orffen diwrnod da. Tywydd ardderchog am fis Ionawr a diwrnod y byddwn ni'n ei gofio am amser hir i ddod.  Dim beth oeddwn wedi ddisgwyl mis Hydref pan awgrymais y daith!

Diolch mawr am gwmni Elen, Anna, Marged,  Matthew, Trystan, Gethin, Andras, Richard, Dylan, Eryl, Sioned Llew, Gareth Huws, Gareth Everett, Manon Davies, Iolo, Sonia, Victoria, Owain a Sian Shakespeare. 

Adroddiad gan Stephen Williams

Lluniau gan Steve ar FLICKR