Dyffryn Teifi, Castell Newydd Emlyn i Genarth ac yn ôl 21 Hydref
Daeth 15 ohonom ynghyd ar fore o dywydd cyfnewidiol i gerdded o Gastell Newydd Emlyn ar hyd glannau gogleddol yr afon Teifi tuag at Cenarth, ac yn ôl wedyn i Gastell Newydd Emlyn ar hyd ei glannau deheuol. Braf oedd gallu croesawu cyfeillion o’r gogledd ac o Glwb Cerdded Tregaron.
Er mai Clwb Mynydda ydyw, tybiaf nad oes dim o’i le o bryd i’w gilydd i ddilyn taith ar hyd un o ddyffrynnoedd Cymru, ac mae’r darn yma o’r Teifi yn ran godidog lle llif hi drwy ein hanes yn dawel-ddolennog, a thrwy dirlun hynod o brydferth, tirlun sy’n nodweddiadol o’r darn yma o Gymru.
O’r Cae Mart cerddwyd trwy dref CNE sydd yn gorwedd yn Sir Gaerfyrddin, a draw at y castell a sefydlwyd gan Maredudd ap Rhys yn 1240, un o gestyll prin y Cymry a godwyd o garreg. Er mai adfail yw’r castell bellach, mae’n sefyll uwchben dolennau o’r Teifi ar safle amddiffynnol gref, a bu’n gefnlen i ddigwyddiadau rhyfeddol a nodedig ar hyd yr oesoedd, gan newid dwylo sawl gwaith mewn brwydro rhwng y Cymry a’r Saeson, cael ei ennill gan Owain Glyndwr, a darnau’n cael ei ddifrodi â ffrwydron yn ystod Rhyfel Cartref y Saeson.
Yna croeswyd y bont dros y Teifi i fewn i Geredigion, ac i hen fwrdeistref Cymreig Adpar. Bron yn syth gwelwyd cofeb i’r wasg gyntaf i gael ei sefydlu yng Nghymru gan Isaac Carter yn 1718. Y llyfr cyntaf oedd “Cân o Senn i’w Hen Feistir Tybacco”. Yna, dringwyd i fyny rhiw serth o’r enw Bryndioddef, lle’n chwedlonol cosbwyd a chrogwyd dihirod, cyn troi oddiarni i’r chwith ac ar hyd ffordd wledig goediog Parc y Trap sy’n arwain tuag at Cwm Cou, gan fwynhau golygfeydd o’r dyffryn a’r dre islaw. Yma, ymunodd Nesta gyda ni am gymal o’r daith. Yna troi o’r ffordd i fynd ar hyd llwybr cyhoeddus drwy Allt y Bedw, oedd galeidosgôp o liwiau’r hydref, gan ddilyn islaw un o is-afonydd y Teifi, sef y Ceri, ac i gyfeiriad Cwm Du. Yma, ffiniwyd yr hen lwybr cert gan waliau cerrig hynafol oedd yn casglu cwymp cyntaf y dail, ymlaen ar hyd darn o ffordd wledig cyn croesi’r afon, a cherdded ar hyd ei glannau serth drwy Allt Geri. Islaw roedd rheadrau ac olion y diwydiant gwlân. Yna heibio i Felin Geri a oedd yn enwog yn yr wythdegau am ei fwyty Siapaneaidd. Wedi cyrraedd Cwm Cou cafwyd tê deg ar ganllaw’r hen bont ddeil ar ddarn o’r ffordd fawr wreiddiol. Wedyn ymlaen am rhyw 150 metr ar y ffordd fawr (y B4333) cyn troi i’r chwith i gyfeiriad Capel Trewen, ac i ddilyn yr afon Teifi unwaith eto. Sefydlwyd yr achos cyntaf yn Trewen yn 1672, a’r capel presennol a godwyd yn 1921 yn y dull “Arts and Crafts” yw’r seithfed i sefyll yma. O’r fan yma cerddwyd drwy’r gelltydd hynafol cyn cyrraedd ardal Penwenallt, yna dros darn byr o heol wledig, cyn dilyn y Teifi’n glos iawn ar hyd rhodfa wedi ei ddyrchafu uwch yr afon, a lle mae’n rhedeg trwy geunant goediog.
Yna, cyrraedd Cenarth, gyda swn ei rheadrau enwog yn dod yn gynyddol amlwg wrth i ni nesau. Wedi tywydd glawiog, roedd yr afon yn llawn, ac er i ni aros, ni welwyd yr un eog yn llamu yn erbyn y llif. Cafwyd cinio fan hyn, a sylwi fod y bont enwog a welodd gwroglau’r oesoedd yn chwarae odditani yn debyg iawn i hen bont Pontypridd, ac yn wir yr un cynllunydd fu wrth waith. Croesi’r bont ‘nôl i Sir Gaerfyrddin wedyn, heibio’r eglwys, ond aros i syllu ar Garreg Gellidywyll gyda’i hysgrifen endoredig Lladin sy’n dyddio o’r 5ed Ganrif. Yna tros gaeau, a chael y cawodydd ysgafn cyntaf, ac ar hyd hen lonydd cert trwy goedydd nes cyrraedd ffermydd Gillo, croesi’r A484, ac ymlaen eto drwy’r caeau ar hyd y llwybrau i gyfeiriad Castell Newydd Emlyn, gan ymweld â Chwm Sara ar y ffordd. Cyrraedd nôl i’r Cae Mart, cyn i rai ohonom fynd i “wlychu’r big” yn nhafarn Y Sgwâr. 10 milltir union oedd y daith, a diolch i Bethan a Mair (cerddwyr Tregaron), Alison, Nigel, Rhiannon a Clive, Iolyn ac Eirlys (y pedwar yn gyfeillion o’r gogledd), Eurig, Rhun, Digby a Helen, Aled ac Eileen, (a Nesta am ran o’r daith) am eu cwmni hynaws.
Adroddiad gan Meirion Jones.
Lluniau gan Meirion ar FLICKR