Crib Nantlle 21 Hydref
Cymylau isel oedd i’w gweld wrth i mi yrru am Ryd Ddu i gyfarfod Alice, Ailinor, Manon, Sian, Eryl ac Erwyn, efo rhagolygon am gawodydd yn ystod y dydd. Ar ôl dringo’n serth i gopa’r Garn, fe gliriodd y cymylau ac fe gafwyd olygfeydd am Fynydd Mawr ac i lawr Dyffryn Nantlle roddodd obaith i ni y byddai’r diwrnod yn gwella. Serch hynny, roedd y gwynt yn gryfach na’r disgwyl ar y Garn ac fe benderfynodd Alice ein gadael a mynd yn ôl i lawr am y car.
Ymlaen a ni i sgrialu i fyny Mynydd Drws y Coed, roedd rhaid cymryd pwyll gan fod y graig yn medru bod yn llithrig iawn, dychwelyd wnaeth y niwl yn anffodus, a dyna fuodd ein hanes fwy neu lai am weddill y diwrnod, gweld bron ddim ond ein traed! Ar ôl y sgrialu, cafwyd paned sydyn yng nghyffiniau Trum y Ddysgl cyn mynd ymlaen ar hyd y grib yn y glaw tuag at Mynydd Tal y Mignedd ac i lawr i Fwlch Dros Bern.
Fe rannodd y criw yn ddau yma, efo Eryl, Ailinor a Manon yn penderfynu ar fwy o sgrialu a Sian, Erwyn a minnau yn dilyn y llwybyr rownd, cyn cyfarfod eto am ginio yng nghysgod copa Craig Cwm Silyn. Ar ôl cinio, penderfynwyd fynd am ein copa olaf y diwrnod sef y Garnedd Goch. Yma, fe gliriodd y niwl ac roeddem yn medru gweld draw am Port, Cricieth a’r môr ond, wrth i ni droi yn ôl am Graig Cwm Silyn, roedd blanced o niwl o’n cwmpas eto.
Disgyn yn serth wedyn o Fwlch Dros Bern i lawr Cwm Dwyfor, ac wrth ddilyn yr hen dramffordd, roedd rhaid croesi ffens weiran bigog a nant, oedd mewn llif oherwydd y glaw diweddar. Dilyn y llwybyr ymlaen at odre’r chwarel, llwybyr oedd braidd yn wlyb a garw mewn mannau! Cafwyd hoe byr yn y chwarel ble cafwyd hanes taith flaenorol fu’n gwersylla’r nos yno, gan Sian, cyn mynd ymlaen trwy Fwlch y Ddwy Elor, y goedwig ac yn ôl at y ceir.
Dringwyd chwech copa yn ystod y diwrnod roddodd gyfle i Ailinor dynnu lluniau, gan ei bod wedi cychwyn ar yr her o gerdded 100 uchaf Cymru – pob lwc i ti efo’r gweddill, a gobeithio y bydd y tywydd yn well ar eu cyfer!
Adroddiad gan Trystan Evans.
Lluniau gan Trystan ar FLICKR