Morfa Nefyn, Edern a Phorthdinllaen 22 Chwefror
Cychwynnodd y daith ym maes parcio yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Morfa Nefyn, a oedd yn arfer bod yn safle hen waith brics yn y 19C. Defnyddid clai lleol i wneud y brics ac fe welwch lawer ohono yn yr allt ar Lan y Môr Bwlch is law. Yn y dyddiau a fu, roedd jeti ar y traeth i lwytho’r brics i longau ac mae ei olion i’w weld o hyd pan fo’r llanw ar drai.
Mae anheddau ar draeth y Bwlch hefyd – y prif adeilad oedd y ‘Customs House’ ac yn yr adeiladau llai roedd gwneuthurwyr hwyliau a rhaffau yn gweithio. Ar yr allt gwelir Tŷ Halen a oedd yn cael ei ddefnyddio i halltu penwaig ers talwm.
Wedi cerdded ychydig i gyfeiriad Nefyn dilynwyd y llwybr i Lôn Pwll William, sydd erbyn hyn yn fan cyfarfod i lawer o’r pentrefwyr gael eistedd a bwydo’r chwiaid. Mae’n glod mawr i berchnogion y tai sy’n cadw trefn ardderchog ar y safle.
Cawsom ein hatgoffa ein bod yn cerdded yng ngwlad ‘Capten’ - nofel fuddugol ardderchog Meinir Pierce Jones, pan groeswyd y lôn bost heibio Roslyn Terrace a Glan Deufor lle roedd y prif gymeriadau’n byw. Erbyn heddiw, enw’r tŷ yw Maenor.
Ar ôl cerdded ar hyd ffyrdd cul Cefn Morfa ac ambell i hen lwybr, daethom at EGLWYS EDERN. Adeiladwyd yr Eglwys yn wreiddiol gan Sant Edeyrn, mab Gwrtheyrn, Brenin y Brythoniaid yn y 5C. Ail adeiladwyd yr eglwys yn 1868 ac o’i chwmpas mae’r hen ysgol Eglwys a’r hen reithordy sydd yn westy Woodlands Hall heddiw. Roedd y fangre hon yn amlwg yn hwb i’r gymuned ar un cyfnod. Gwelir llawer o feddi i drigolion Porth Dinllaen yn y fynwent sy’n adlewyrchu pwysigrwydd Porth Dinllaen fel pentref morwrol yn y 18 a’r 19C. Y bedd mwyf ddiddorol yw’r bedd i 17 o longwyr y Cyprian – llong a ddrylliwyd ar 14 Hydref 1881 rhwng Edern a Thudweiliog. Roedd yn cario amrywiaeth o gargo gan gynnwys llestri o Lerpwl i Genoa gyda 28 ar ei bwrdd gan gynnwys un ‘stowaway’. Roedd llawer o bobl leol yn ei gweld yn mynd ar y creigiau ac yn helpu i achub y rhai oedd yn ceisio nofio i’r lan. Rhoddodd y Capden ei siaced achub i’r ‘stowaway’ a gafodd ei achub, ond boddwyd y Capden. Mae llawer o’r llestri wedi eu casglu ar draws y blynyddoedd, llawer ohonynt gan deulu fferm Hirdre Fawr a oedd yn byw dros y ffordd i’r ysgol. Ond bu tân yn y tŷ a chafodd y llestri eu difrodi. Defnyddid cloch y Cyprian gan ffermwyr Hirdre Fawr i alw’r gweision pan oedd bwyd yn barod. Ychydig flynyddoedd yn ôl daeth ŵyr y ‘stowaway’ i Eglwys Edern ryw fore Sul – yn awyddus i weld bedd y Cyprian.
Bedd arall ddiddorol yw’r un i HARBWR FEISTRES PORTH DINLLAEN – Jane Elen Jones (nee Thomas) a anwyd yng Nghaernarfon yn 1836. Priododd wneuthurwr hwyliau o Lerpwl yn 1856 - Thomas Linton. Symudodd y teulu o 4 plentyn i Borth Dinllaen 1865. Bu Thomas Linton farw yn 1866 a daeth Jane Elen yn Harbwr Feistres y porthladd. Ail briododd Jane Elen gyda Capden Llong - Hugh Hughes - a chael 2 blentyn arall – mab a merch. Ymhen 3 blynedd roedd yn weddw eto. Yna yn 1881 priododd eto gyda chapten llong arall, William Jones, oedd yn ŵr gweddw gyda 4 o blant. Yn 45 oed cafodd un plentyn arall. Cymeriad lliwgar a dweud y lleiaf - a oedd yn dipyn o ‘Granogwen’ yn ei dydd.
Cerddwyd heibio CAPEL TOM NEFYN yng nghanol pentref Edern - pregethwr mawr a arferai bregethu yn yr awyr agored a mynd o gwmpas bob man ar ei feic. Roedd ei bregethau yn rhai yn ymwneud â chyfiawnder cymdeithasol yn fwy na chrefydd.
Talwyd am adnewyddu’r capel yn 1877 gan CAPT HUGH ROBERTS, LLAIN HIR a gychwynnodd ei yrfa fel morwr cyffredin ond a ddaeth yn un o berchnogion llongau mwyaf y wlad gyda phencadlys yn Newcastle - The North Shipping Co Ltd gyda tua 30 o longau.
Anfarwolwyd Edern gan J Glynne Davies yn y gyfrol ardderchog CERDDI EDERN. Cyfansoddodd ddegau o siantis môr a phenillion i blant. Roedd ei wreiddiau yn Edern (nain yn byw yma a pherthynas hefyd yn Abergeirch). Er mai yn Lerpwl roedd yn byw, treuliai ei wyliau haf bob blwyddyn yn y Felin yn Edern. Ei eiddo ef yw’r englyn yma:
Llŷn
Heulwen ar hyd y glennydd – a haul hwyr
A’i liw ar y mynydd.
Felly Llŷn ar derfyn dydd –
Lle i enaid gael llonydd.
Aeth y daith ymlaen i gyfeiriad y môr gan fynd heibio PWLL PARC, cartref perchnogion ‘The Golden Cross Line’ oedd â’i bencadlys yng Nghaerdydd. Magwyd y tad, John Williams, yn y pentref a phrynodd ef ychydig o longau a dod yn weddol lwyddiannus. Ond y ddau fab Owen a Watkin a sefydlodd y cwmni enfawr The Golden Cross Line oedd â fflyd o tua 50 o longau. Roedd degau o gapdeiniad a morwyr o Edern, Morfa Nefyn a Nefyn yn cael eu cyflogi ganddynt. Yn y fynwent yn Edern mae bedd William Roberts, 20 oed, a foddwyd pan aeth yr Edeyrnion i lawr gyda thorpedo yn y rhyfel byd cyntaf.
Yn ABERGEIRCH gwelwyd olion GORSAF CEBL GPO a godwyd yn 1886 i fynd oddi yma i Newcastle, Wicklow. Yna yn 1913 gosodwyd cable rhwng Aber Geirch a Howth yn Nulyn. Yn ystod y rhyfel roedd milwyr yn gwarchod yr orsaf. Byddai Lloyd George yn dod yma pan fyddai yn aros yn ei gartref yng Nghricieth i gael negeseuon pwysig.
Yn 1934 agorwyd GWERSYLL YR URDD – ar gaeau fferm Porthdinllaen yn edrych i lawr ar Abergeirch. Hogia yn unig oedd yn aros yn y gwersyll a byddai’r genod yn aros yn Llangrannog.
Wedi cerdded drwy’r gwynt a’r glaw ar draws y golff i drwyn Porth Dinllaen, cawsom gip ar y bad achub presennol, y John D Spicer. Mae’r orsaf yn falch iawn fod 3 merch yn aelodau gwirfoddol o’r criw. Gorffennwyd y daith yn nhafarn y Tŷ Coch ar y traeth hanesyddol a fu unwaith yn ganolbwynt bywyd yr ardal gyfan.
Adroddiad gan Rhiannon
Lluniau gan Rhiannon, Anet, Gareth, Haf a Iolo ar FLICKR