HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Cwmpasu Moel Wnion 22 Mawrth


Un ar ddeg o aelodau wedi cyfarfod yng nghanol Bethesda i grwydro'r ucheldiroedd uwchlaw'r pentre. Tywydd yn braf ond yn wyntog iawn i ddechrau, a glaw trwm wedi cyrraedd amser cinio. Felly, rhaid cwtogi'r daith ychydig, a thorri ar draws llethrau Moel Wnion, er bod yr haul wedi dychwelyd erbyn cyrraedd yn ôl i Fethesda. Rhyfeddodau ar y ffordd yn cynnwys carreg saethau, lle, yn ôl y sôn, roedd milwyr yr oes a fu yn miniogi eu harfau, ac olion anheddau Oes yr Haearn. 

Adroddiad gan Janet Buckles.

Lluniau gan Aneurin ar FLICKR