Elidir Fawr, Foel Goch a’r Garn 22 Ebrill
Ar fora cynnes, sych, dyma gychwyn o Faes Parcio Nant Peris am 9:00 o’r gloch a’r golygon ar copa’r Elidir Fawer oedd dan ychydig o niwl. Deg ohonom oedd yn y criw yn troedio araf i gyfeiriad Cwn Dudodyn a dilyn y llwybr serth i ben yr Elidir. Cyrhaeddwyd y copa a’r ôl tipyn o ymdrech o chael mwynhau paned dderbyniol yno. Anelu wedyn am i lawer drwy Fwlch y Marchlyn a’r niwl yn araf glirio. Ymlaen wedyn trwy Fwlch Y Brecan tuag at lethrau a copa Moel Coch wedyn cerdded ar tir gwastad gan ddilyn y ffens i ben Y Garn. Erbyn hyn roedd yn haul yn gwenu a braf cael y cyfle i rhoi eli a mwynhau tamaid o ginio. Troi am yn ol heibio Llyn y Cwn gan ddilyn Afon Las drwy Gwm Padrig i’r ffordd fawr a’r ceir.
Diolch am gwmni Nia, Elen, Anna, Gwyn, Alice, Trystan, Dwynwen, Gerallt , Sandra a Dafydd. I orffen diwrnod difyr o awyr iach aeth rhai i fwynhau llymaid yn y Faenol Arms, Nant Peris.
Adroddiad gan Dylan
Lluniau gan Gerallt Pennant ar FLICKR