HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Fan Hir, Gweddillion Awyren Vampire a Sinc y Giedd 22 Ebrill


Mwynhaodd y criw daith gerdded ar ymylon gorllewinol Bannau Brycheiniog ar ddiwrnod eithaf braf (er gwaetha’r rhagolygon am dywydd diflas).

Cyfarfu pedwar ar ddeg ohonom ni ym maes parcio Dan yr Ogof. I ddechrau, cerddon ni ar hyd y ffordd fawr am gilometr lan at Dafarn y Garreg ac wedyn roedd esgyniad creulon o ryw 600 m. Ond roedd hi’n werth dyfalbarhau er mwyn cyrraedd crib ysblennydd Fan Hir gyda golygfeydd syfrdanol a cherdded gwych. Disgynasom o Fwlch y Giedd i gyrraedd gweddillion damwain awyren Vampire VZ 106. Roedd hon wedi hedfan o RAF Pen-bre i mewn i lethrau gorllewinol Fan Hir yn ystod ymarfer hyfforddi ar y 9fed o Hydref 1953. Plymiodd yr awyren yn syth i mewn i’r llethr trwy gymylau trwchus a lladdwyd y peilot.

Mae’r gweddillion hyn yn un o chwech o olion damweiniau sydd i'w cael ym mryniau anghysbell y Mynydd Du rhwng 1939 a 1953. Collwyd bywydau 24 o awyrenwyr ond llwyddodd 6 i oroesi. Marwolaeth unig a thrist ymhell o'r gwasanaethau achub a'u cartrefi (roedd un o Ganada).

Yna cawsom ychydig o gilomedrau llafurus wrth groesi o'r Haffes i'r Giedd. Dim llwybrau, corsiog dros ben a thwmpathau o laswellt yn bygwth troi migyrnau.

Roedd rhyddhad mawr felly pan arhoson ni i gael cinio ger Sinc y Giedd. Llync-dwll mawr yw hwn ar ben draw dyffryn sych hir. Pan fydd hi’n bwrw glaw, mae'r dŵr glaw yn arllwys i lawr, a 13 awr yn ddiweddarach, mae'n ymddangos mewn nant fawr yn system ogofâu Dan yr Ogof. Mae hyn yn dangos bod yn rhaid bod system ogofâu enfawr eto i'w darganfod.

Yna, dyma droi’n ôl ar hyd y llwybr hynafol ar draws y Bannau gorllewinol hyn o Landdeusant i Gwm Tawe gan orffen yn Dan Yr Ogof.

Taith gerdded o 17 km gyda 640 m o ddringo.

Adroddiad ganAlison Maddocks .

Lluniau gan Dewi ar FLICKR