Glyderau 23 Medi
Cychwynodd 11 ohonom o’r safle bws ym Mhont y Benglog ger Llyn Ogwen. Braf oedd cael cwmni Sioned, Eryl, Gareth Everett, Ariannell, Erwyn, Tomos, Catrin, Alice, Morfudd ac Andras.
Roeddwn mor ffodus i gael ffenest dywydd berffaith ar gyfer ein diwrnod ar y mynyddoedd rhwng cyfnod o law trwm, gwyntoedd cryfion a storm ffyrnig nos Sadwrn i fewn i fore dydd Sul. Roedd y sgwrs ar gychwyn y daith am y deg aelod o’r clwb oedd allan ar y Moelwynion yn gwneud eu Hyfforddiant Arweinwyr Mynydd ac yn gorfod gwersylla mewn amodau mor heriol.
Ar ôl disgwyl i Gareth orffen ei frecwast “Rocky Road Brownie” a paned o gaffi Johnson’s, fe wnaethom gychwyn o Ganolfan Ymwelwyr Idwal a gadael prif Lwybr Llyn Idwal i ddringo i fyny i Lyn Bochlwyd gyda'r amodau'n gwella wrth i ni barhau. Wrth ddringo uwchben Crib Cneifion, roedd yr olygfa o'n blaenau braidd yn dywyll gyda chymylau trwchus ac awyr dywyll ar gopa’r Gribyn. Roedd y grib braidd yn damp felly mi aeth rhai o’r criw hyd y llwybr o dan y grib a’r gweddill a oedd ddigon hyderus i sgrialu’n uwch i fyny. Roedd angen defnyddio’r cwmpawd o ben y grib i sicrhau ein bod yn mynd yn y cyfeiriad cywir am Glyder Fawr, er buan a fu’r niwl godi ac mi arhosodd yn glir am weddill y dydd. Wrth i ni ddisgyn i Lyn y Cwn daeth nifer o redwyr heibio ni a oedd yn rhedeg ras Pedol Peris. Roedd cael ein cinio ger Llyn y Cwn yn gadael I’r mwyafrof o’r rhedwyr ein pasio ni cyn parhau dros y Garn ar stumog llawn. Dwi rioed wedi gweld copa’r Garn mor brysur gyda sawl stiward a gwirfoddolwyr yn cefnogi’r rhedwyr.
Arafodd y cyflymder rywfaint tuag at gopa'r Foel Goch gan ein bod yn gwneud amser da a'r tywydd yn braf. Gadawodd Everett ac Eryl ni ar gopa y Foel Goch i ddychwelyd i’r car yn Llyn Ogwen tra’r oedd gweddill ohonom yn parhau dros Fynydd Perfedd, Carnedd y Filiast a’r Fronllwyd.
Ar ôl gostwng o gopa’r Fronllwyd y cafom ddipyn o antur hyd ochr wal trwy grug trwchus nes cyrraedd bwlch yn y wal a dod o hyd i lwybr gwell oedd yn arwain ni lawr i Chwarel y Penrhyn. Cerdded wedyn o dan y llinellau Zip i Lôn Las Ogwen. Penderfynwyd y byddem yn gorffen yn y Tafarn newydd (Tŷ Mo) ym Methesda pan gyrhaeddom ar ôl cerdded drwy Barc Meurig. Roedd wedi mynd braidd yn hwyr i rai ac roedd angen i eraill ddal y bws felly dim ond fi, Sioned, Catrin a Tomos a fwynhaodd beint o Sgwarnog Gwyn cyn dychwelyd adref o flaen y storm. Methu peidio a meddwl am y criw allan ar y Moelwynion fel oedd y gwynt a’r glaw yn cyraedd nos Sadwrn. Wedi bod allan mewn amodau tebyg fy hun ac yn teimlo’r boen! Chware teg i bob un ohonynt am eu ymdrechion!
Adroddiad gan Stephen Williams.
Lluniau gan Steve ar FLICKR