HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Waun Oer, Pedol Cwm Ceiswyn, Cwm Ratgoed ac Aberllefenni 24 Mehefin


Ym Mwlch Llyn Bach ar fore o law mân a chymylau isel, braf oedd cyfarfod deg aelod arall o’r Clwb, sef, Nia Wyn a Meirion, Gwen Chwilog, Nia, John Arthur, Eifion, Iolo, Richard a Sw ac Erwyn J.

Roedd yn rhaid codi yn eithaf serth am grib Ceiswyn, a’r tir wedi gwlychu gymaint ar ôl y glaw y diwrnod cynt ac yn ystod y nos, er ein bod wedi bod mewn cyfnod o dywydd sych a phoeth yn ddiweddar.’Doedd dim esgus i gymryd seibiant ar y ffordd i fyny i edrych yn ôl ar fawredd  Mynydd Moel a Chadair Idris a harddwch y bwlch a Llyn Mwyngil y tu ôl inni, gan ein bod mewn niwl.  Y tywydd hwn yn parhau wrth inni gyrraedd copa Waun Oer ac ar y ffordd i lawr, gyda rhai yn dod lawr yn serth iawn gyda’r ffens ac eraill yn dewis igam-ogamu i lawr i’r bwlch, ble cafwyd paned a seibiant cyn cychwyn dringo i fyny Cribin Fawr. Gyda’r niwl yn dal i guddio’r golygfeydd gwych, aeth pawb dros y gamfa i fynd lawr dros y tir mawnog am y grib i Graig Portas. Wrth gerdded lawr Cribin Fawr, er mawr ryddhad i bawb, cododd y niwl a daeth Maesglase, Craig Portas a Mynydd Dolgoed i’r golwg.

Pan yr oeddem yn cerdded i lawr crib hyfryd Mynydd Dogoed ac yn gweld y golygfeydd o gwmpas, gyda Mynydd Ceiswyn a Waun Oer ar ein llaw dde, Coedwig Ddyfi ar y chwith inni, Cwm Ratgoed ac Aberllefenni o’n blaenau, a gweld fod y rhan helaethaf o’r tiroedd wedi bod, neu yn dal i fod dan goedwigaeth, daeth y cwpled hwn o eiddo Gwenallt allan o’r gerdd “Rhydcymerau” i gof Nia Wyn

Coed lle y bu cymdogaeth,
Fforest lle bu ffermydd,”

Mae’r cwpled hwn yn disgrifio’r ardal yn berffaith.

Wedi disgyn yn serth i lawr y  ffriddoedd o Fynydd Dolgoed, aeth y criw i gael cip ar dŷ hynafol Dolgoed. Ymlaen ar hyd Cwm Ratgoed wedyn, gan fynd heibio’r Plas a sylwi fod cryn dipyn o waith adnewyddu wedi cael ei wneud iddo’n ddiweddar.’Roedd pawb wedi rhyfeddu at y sgymraeg, neu’r cyfieithiad difrifol o wael o’r rhybuddion diogelwch, un ar wal ger y Plas a’r llall ar wal yr hen weithdy llechi! Cafwyd golwg ar y capel sydd ger rhai o hen dai y chwarelwyr gynt a gweld chwareli’r cwm. Cyn cychwyn lawr yr hen ffordd drol am Aberllefenni, gwelwyd yr hen graen mawr rhydlyd yn nhwll chwarel Foel Crochan.

Braf oedd cael seibiant yn yr haul yn Aberllefenni cyn cychwyn yn ôl am Fwlch Llyn Bach. Dechreuwyd y daith yn ôl  trwy gerdded ar y llwybr ar ochr orllewinol  Cwm Hengae. O’r llwybr hwn gellir gweld mawredd y chwarel ar Foel Crochan a’r agoriad mawr iddo.Yn ogystal â hyn, cael y profiad  o deimlo’r awel oerach yn codi o’r chwarel ar ein chwith.Braf ydyw gweld fod peth gwaith yn dal i’w gael yma gyda cherrig yn cael eu malu’n fân mewn gweithle islaw, ac maent yn gwerthu darnau mawr o lechan ar gyfer pethau fel silffoedd, lloriau, pensarniaeth a.y.y.b.. Mae enghraifft dda o’u cynnyrch ar gyfer pensaerniaeth i’w weld yn adeilad y senedd yng Nghaerdydd. Oddi yno, ymunwyd â’r ffordd  a dilyn honno i ben y bwlch a throsodd.

Gyda’r haul yn gynnes iawn erbyn hyn a’r rhiw yn hir ac yn serth iawn tua’r copa, teimlais fod y ddringfa i’r bwlch yn ddiddiwedd! Ond braf oedd cyrraedd y man uchaf a chael cerdded i lawr y ffordd, cyn troi am y llwybr am Fwlch Llyn Bach. Roedd pawb yn hapus eu bod yn gallu gweld y golygfeydd gwych nas gwelwyd wrth fynd i fyny yn y bore. Braf oedd cael cwmnio rhai o’r criw am ddiod yn nhafarn y Crossfoxes wedyn.

Diolch yn fawr i bawb ddaeth ar y daith, am eich cwmni difyr, am eich cyfeillgarwch ac eich sirioldeb, yn y glaw a’r heulwen .
Eirlys   

Adroddiad gan Eirlys

Lluniau gan Eirlys ar FLICKR