Moel Hebog 25 Tachwedd
Gan fod rhagolygon y tywydd yn ffafriol ar gyfer y diwrnod ymunodd 21 o aelodau â mi ar fore Sadwrn ym Meddgelert ar gyfer y daith.
Roedd rhan gyntaf y daith yn ddringfa serth i gopa Moel Hebog a chyrhaeddwyd yno mewn pryd i gael cinio cynnar, gyda’r cysur ein bod wedi cwblhau rhan galetaf y daith ac y byddai’r gweddill yn llawer haws. Cafwyd llecyn yng nghysgod wal allan o’r gwynt i gael ein cinio gyda chyfle i fwynhau’r golygfeydd hyfryd o’n cwmpas. Er ei bod yn gymylog roedd gennym olygfeydd ond fe sylwyd fod rhannau eraill o Eryri, megis mynyddoedd Meirionnydd a Dyffryn Conwy, o dan awyr las!
Wedi i bawb hel yn eu boliau roedd yn rhaid colli uchder a disgyn yn serth i lawr i Fwlch Meillionen lle ffarweliwyd â Dilys tra’r aeth y gweddill ohonom i fyny am gopa Moel yr Ogof. Yn ein blaenau wedyn ac roedd yn gerdded haws i’n copa olaf, Moel Lefn. Ar ôl sefydlu yn union lle’r oedd y copa, i lawr a ni i gyfeiriad Bwlch Cwm Trwsgl, a chyn ei gyrraedd manteisio ar lecyn cysgodol i gael ein paned olaf.
Yn y bwlch, dringo dros y gamfa a disgyn i lawr i’r goedwig uwchben Llyn Llywelyn cyn dilyn y llwybr (heriol dan draed ar adegau) nes ymuno â Lôn Gwyrfai a’i dilyn yn ôl i Feddgelert. Roedd yn hwylio i dywyllu erbyn i ni gyrraedd yn ôl ac roedd lleuad llawn trawiadol i’w weld. Cyn dychwelyd am adref aeth rhai ohonom am dafarn Llywelyn yn y pentref i roi’r byd yn ei le.
Braf oedd cael cwmni criw sylweddol o gyd fynyddwyr a fu’n sgwrsio a chwerthin trwy’r dydd. Y criw oedd:
Alice, Anna, Arwel, Awen, Dei a Cheryl, Dilys, Dwynwen, Dylan, Euryn, Gaenor, Gwyn (Llanrwst), Hefin a Morfudd, Huw, Keith, Sandra, Sian, Sioned, Steve, Tegwen.
Roedd tri yn wynebau diethr, Awen ar daith blasu, Huw yn aelod ers cyfnod ond heb fod allan ar daith ers amser, a Steve ar ei daith gyntaf gyda’r Clwb. Gan mai cyfenw Steve yw Williams bydd yn rhaid i ni feddwl am ffordd wahanol o’i adnabod gan ei fod yn rhannu yr union ‘run enw â’n Cadeirydd! Gobeithio y cawn gwmni’r tri eto ar y mynydd.
Adroddiad gan Iolo Roberts.
Lluniau o'r daith gan Sandra, Sioned ag Erwyn ar FLICKR