Yr Alban 27 Mai – 3 Mehefin
Awyr las bob dydd, mynydda gwerth chweil a chwmni da.
Roedd hi’n haf hirfelyn tesog bob dydd i’r criw lwcus aeth ar daith yr haf i’r Alban eleni i ardal Roy Bridge, ychydig filltiroedd i’r gogledd-ddwyrain o Fort William.
Y criw a brofodd Yr Alban ar ei gorau oedd Keith, Gareth, Ifan, Catrin, Sandra, Anna, Iolo, Llio, Marc, Llywarch, Andras a Dafydd. Roedd Llywarch yn ymuno â’r clwb am y tro cyntaf.
Llety’r criw oedd hostel Àite Cruinnichidh ar gyrion pentref Roy Bridge. Dafydd ap Gwilym sgwennodd gerdd un tro o’r enw “Trafferth mewn Tafarn”. Roedd yna “Drafferth mewn Hostel” ambell waith yn y llety sylfaenol yma ond ni ballodd hynny ar yr hwyl ar ôl dyddiau hir o fynydda.
Dyma hanes y teithiau:
Dydd Sul 28/5
Taith 1: Creag Meagaidh (1128 m), Stob Poite Coire Ardair (1054 m) a Carn Liath (1006 m).
Aeth pawb oni bai am Catrin ar gylchdaith Creag Meagaidh dan arweiniad Gareth gan gychwyn a gorffen yn Aberarder. Roedd pawb yn gytûn y byddai’r daith 13 milltir yn ein paratoi at deithiau gweddill yr wythnos ac fe ddringom 3 Munro.
Bu’n braf mwynhau copaon eang a gwastad Creag Meagaidh, a sylwi ar y pantiau o eira yma ac acw.
Llongyfarchiadau i Sandra a Llywarch ar gwblhau eu Munro cyntaf gan gyrraedd copaon tri Munro ar un daith!
Taith 2: Aeth Catrin i ddringo Sgurr Thuilm a Sgurr nan Coireachan sy’n cael eu hadnabod fel Munros Glenfinnan. Taith 14.5 milltir ac esgyniad o 1428 m.
Gwledda yn nhafarn The Stronlossit Inn gyda’r nos.
Dydd Llun 29/05
Taith 1: Carn Mor Dearg (CMD) (1220 m), Ben Nevis (1345 m)
Mae’n ddywediad mai ond am un diwrnod allan o bob deg mae copa Ben Nevis yn glir.
Wel, yn toedden ni’n lwcus! Bu’n awyr las trwy’r dydd wrth i griw o naw ddringo pedol glasurol Carn Mor Dearg a Ben Nevis, a wyneb gogleddol copa uchaf yr Alban yn syllu arnom wrth i ni gropian hyd crib Carn Mor Dearg.
Cawsom ginio ar y grib cyn dringo sgri serth yn y cymal olaf i gyrraedd copa Ben Nevis.
Yna ciwio fel twristiaid yr Wyddfa am lun o flaen y trig ar gopa Ben Nevis, ac i lawr y llwybr twristiaid cyn torri ar draws er mwyn mynd yn ôl i’n man cychwyn i faes parcio’r North Face yng ngolau’r lleuad.
Taith 2: Coire Eoghainn/Sloc Nan Uan (1150 m) - Ben Nevis (1345 m)
Mae’n debyg mai mynyddwyr go iawn y diwrnod oedd Keith, Sandra a Dafydd a fentrodd llethr llawer mwy diarffordd a serth am gopa Ben Nevis.
Eu man cychwyn a gorffen oedd gerllaw Pistyll Steall, Glen Nevis. Cawsant osgoi torfeydd y mynydd nes cyrraedd ei gopa gan ddringo yn hollol serth ar dirwedd glaswelltog. “Roedd o bron yn vertical!” oedd cri y tri.
Diwrnod gogoneddus i’r tri yma hefyd, ac mi lwyddon nhw i weld y criw arall yn mwynhau eu cinio ar y grib o bell, wrth gerdded hyd y sgri am y copa.
Ar ôl i holl aelodau’r daith gyrraedd copa uchaf Ynys Prydain, roedd rhaid dathlu yn yr hostel gyda thecawê Tsieineaidd o Fort William, gêm o gardiau a chwrw o’r gasgen roedd Catrin wedi ei threfnu.
Dydd Mawrth 30/05
Taith 1: Beinn Teallach (915 m) a Beinn a' Chaorainn(1052 m)
Dyma oedd yn denu Keith, Iolo a Dafydd. Beinn Teallach yw Munro lleiaf yr Alban, ond mawr yw’r gamp o gyrraedd ei gopa!
Taith 2: Aonach Beag (1234 m) ac Aonach Mòr (1221 m)
Aeth Ifan, Iolo, Anna, Sandra, Andras, Mark a Llywarch am gopaon Aonach Beag ac Aonach Mòr gan gychwyn ger Pistyll Steall, Glen Nevis.
Er bod ‘beag’ yn golygu bach a ‘mòr’ yn golygu mawr, Aonach Beag yw’r uchaf o’r ddwy, sy’n atgoffa rhywun o’r un chwithdod â sy’n perthyn i Bera Bach a Bera Mawr yn y Carneddau.
Ar ôl cyrraedd copa Aonach Mòr, tra bod rhai’n ddigon bodlon yn torheulo a bwyta eu cinio ar y copa, ymlwybrodd y rhai plentynnaidd draw at lethr sgïo Nevis Range lle roedd modd gweld y lifftiau a’r cytiau sgio.
Diwrnod glas arall, a’r mynyddoedd yn haenau i bob cyfeiriad. Diolch i Marc a Llywarch, aelodau amryddawn o Gôr y Brythoniaid am ganu ar hyd y daith ac am adrodd ambell i limrig sydd ddim digon gweddus i’w cynnwys yma.
Dydd Mercher 31/05
Taith 1: Stob Coire Sgriodain (979 m) a Chno Dearg (1046 m)
Un da ydy Keith am ddewis teithiau llai amlwg a llwybrau tawelach. Dyna a gafwyd ar ddydd Mercher gyda chriw o naw yn mentro Stob Coire Sgriodain a Chno Dearg dan ei arweiniad.
Cychwyn o goedwig Fersit hyd llethrau oedd yn llawn o blu’r gweunydd am y copaon.
Golygfeydd godidog o Loch Teig a rheilffordd Corrour o gopa Stob Coire Sgriodain a dyfalu lle roedd Marc a Llywarch a oedd wedi mynd ar y trên i Corrour cyn dringo Carn Dearg (941 m) a Sgot Gaibhre (955 m)
Wrth adael y maes parcio ar ddiwedd y dydd, fe welodd Sandra, Anna a Keith garw ifanc. Rhyfeddod arall cyn gadael oedd nofio yn un o’r llynnoedd gerllaw a chlywed y gôg cyn teithio yn ôl i’r hostel.
Dydd Iau 1/6
Taith 1: ‘Grey Corries’: Stob Bàn, Stob Choire Claurigh, Stob Coire an Laoigh a Sgùrr Chòinnich Mòr
Roedd Sandra wedi cael ei denu at y gadwyn o fynyddoedd llwydion oedd yn dal ei llygaid o’r copaon ers ddechrau’r wythnos.
Doedd dim amdani felly ond mentro’r Grey Corries ar ddydd Iau. Cododd Gareth, Sandra a Marc gyda’r wawr er mwyn parcio ceir yn Glen Nevis gan mai’r man cychwyn fyddai Corriechoille, Glen Spean.
Taith wastad ond digon hir at bothy Larig Leacach cyn mentro’r llethr cyntaf am gopa Stob Bàn cyn disgyn yn serth ac ar gerrig rhydd am lethrau Stob Choire Claurigh.
Unwaith roeddem ar gopa Stob Choire Claurigh, roedd y cerdded ar hyd y gadwyn i gopaon Stob Coire an Laoigh a Sgùrr Chòinnich Mòr yn haws ac yn hyfryd a theimlad arbennig oedd edrych yn ôl ar yr holl gadwyn a gweld lle roeddem wedi troedio.
Ar ôl siwrne o 16 milltir dan arweiniad gofalus Gareth a llond bol o KFC Fort William i rai, roedd cwrw oer yn aros am y criw yn yr hostel. Diolch eto i Marc am godi canu hyd at yr oriau mân.
Taith 2: Dringodd Keith a Dafydd i gopa Gairich o Argae Loch Cuaich gan wneud taith 11 milltir, tra cwblhaodd Catrin daith 23 milltir gan ddringo Beinn Eibhinn (1102 m), Aonach Beag (1116 m) Geal-Charn (1132 m) a Cairn Dearg (1034 m). Cafodd Llio ddiwrnod da yn Fort William.
Diwrnod chwedlonol a llawn antur i bawb.
Dydd Gwener 2/6
Roedd y grŵp bedwar aelod yn llai ddydd Gwener wrth i Sandra ac Anna adael am ogledd Cymru ac i Llywarch a Marc ei heglu hi am Gaeredin.
Catrin arweniodd Andras a Gareth i gopaon Beinn Teallach (915 m) Beinn a'Chaorainn (1052 m) sef yr hyn wnaeth Keith a Dafydd ar ddydd Mawrth.
Aeth Keith, Dafydd a Llio i fyny Beinn a’Mhonicag (567 m) gan gloi eu hwythnos gyda thaith hamddenol.
Dydd Sadwrn 3/6
Un o’r criw oedd ar ôl i gerdded ddydd Sadwrn. Dringodd Catrin i gopaon Sgurr na Ciste Duibhe, Sgurr na Carnach a Sgurr Fhuaran gan gychwyn o faes parcio Glen Shiel a gorffen yn Allt A'Chruinn. Taith 9.25 milltir a’r awyr dal yn las.
Diolch o galon i Keith am drefnu wythnos fendigedig, ac i Gareth, Keith a Catrin am arwain teithiau, am gwmni llawen pawb, ac am awyr las trwy gydol yr wythnos!
Yr unig drafferth rŵan ydy bod yn ein disgwyliadau o dywydd teg yn Yr Alban yn andros o uchel!
Adroddiad gan Anna George
Lluniau gan Anna ar FLICKR