Cadair/Cader Idris 28 Hydref

  
Wedi bore o gerdded heb fawr ddim glaw, roedd y criw  yn edrych ymlaen at ymlacio i fwynhau cinio yn y lloches ger copa Mynydd Moel .  . . pan ddechreuodd fwrw’n drwm yn sydyn! Roedd yn wlyb a gwyntog wedyn hyd at gopa’r  Gadair ond gwellodd y tywydd ar y llwybr i lawr dros Graig Cau i ni gael  mwynhau’r olygfa o Dal-y-llyn a’r dyffryn hyd at Fae Ceredigion, er bod y  copaon yn dal dan gwmwl.
      
Cerdded digon hamddenol gafwyd am y tri-chwarter awr  cyntaf o’r maes parcio ym Minffordd ar hyd llwybr yr hen ffordd i fyny Cwm  Rhwyddfor, yn union o dan yr A487. Pan gyrhaeddwyd y man lle mae’r llwybr yn  ymuno â’r ffordd fawr y dechreuodd gwaith caletaf y dydd; dringo’r llechweddau  glaswelltog di-lwybr serth iawn i gyrraedd ysgwydd Mynydd Gwerngraig. A’r tu  cefn inni roedd y diafol yn cadw llygaid arnom o’i bulpud ar Graig y Llam!
Doedd fawr o ysbaid wedyn cyn dringo’n serth unwaith  eto i fyny Gau Graig ac yna milltir o dir gwastad ond gwlyb dan draed cyn  dringfa arall i gopa Mynydd Moel ac ymlaen wedyn am Ben-y-Gadair. Wedi oedi am  ychydig funudau i dynnu lluniau, ymlaen â ni ar i lawr tua Craig Cau a’r niwl  yn torri i ddatgelu golygfeydd trawiadol o Lyn Cau oddi atom, codi unwaith eto  dros Graig Cwm Amarch a dilyn y llwybr arferol yn ôl i Finffordd – gan gymryd  digon o ofal gan fod y cerrig yn dal yn wlyb a llithrig.
Pawb i lawr yn ddiogel ac yn fodlon eu byd (dwi’n  meddwl?) wedi diwrnod eithaf heriol gyda Judith yn troi am Aberystwyth ond y  pump arall (Sioned Llew, Eirlys, Sandra, Erwyn ac Eryl) yn cael cyfle i rhoi’r  byd yn ei le a chyfle am beint o gwrw Cader ar y ffordd adref yn y Groes (Cross  Foxes) – er mai paned mewn tebot bach del iawn oedd dewis un!
      Adroddiad gan Eryl Owain.
      
    Lluniau gan  Sioned Llew ar FLICKR
