Bryniau Clwyd 29 Ebrill
Cyfarfu 21 o aelodau’r Clwb ym maes parcio Bwlch Pen Barras a gwenodd yr haul wrth i ni gerdded ar hyd Llwybr Clawdd Offa i gopa Moel Fammau. O fanno, pan mae hi’n weddol glir, gellir gweld dros Gilgwri ac Afon Merswy, eglwysi cadeiriol Lerpwl a hyd yn oed Ynys Manaw. Wrth barhau â’r daith i gyfeiriad Moel Dywyll, roedden ni’n edrych i lawr ar fryngaer Moel y Gaer a oedd, yn ôl y sôn yn gartref i rai cannoedd o bobl yn ystod yr Oes Haearn.
Erbyn inni gyrraedd godrau Moel Arthur, rhaid oedd gwisgo cotiau a throwsusau glaw a rhoddwyd dewis i’r cerddwyr; un ai anelu am y copa ar hyd llwybr Clawdd Offa neu ddringo llwybr mwy serth sy’n arwain yn syth i’r copa. Dewisodd y mwyafrif yr opsiwn cynta!
Cafwyd hindda ar y copa a manteisiwyd ar y cyfle i gael cinio cyn disgyn bron i waelod Dyffryn Clwyd a dilyn y llwybr ar hyd godrau’r bryniau tan i ni gyrraedd Coed Ceunant i weld y carpedi o Glychau’r Gog a oedd o fewn dim i gyrraedd eu gogoniant.
Esgyn wedyn i’r maes parcio ac yna lawr i bentref Llanbedr Dyffryn Clwyd i fwynhau peint haeddiannol yn Nhafarn y Griffin. Yn ôl Strava Dwynwen, taith o 11.29 milltir ac esgyniad o 2546 troedfedd.
Y cerddwyr bodlon oedd Sandra, Gwen, Margiad, Iolyn, Eirlys, Gwyn, Eifion, Arwel, Rhys, Sioned, Gaenor, Gerallt, Dwynwen, Keith, Rhiannon, Clive, Paula, Gwyn, Dylan, Sw a Richard (arweinyddion).
Adroddiad gan Richard
Lluniau gan Gerallt Pennant ar FLICKR