Cwm Dulais a Bryniau gogledd Abertawe 29 Gorffennaf
Cyfarfu deg ohonom yn y man cychwyn, sef cilfan wrth ymyl yr A48 ger tafarn y Fountain gerllaw Pontarddulais. Cyn dechrau ar ein taith cawsom gyfle i edrych ar gofeb i Ferched Beca, i ddynodi dinistrio Gât y Bolgoed yn 1843. Hon oedd un o ddwy gât a ddinistriwyd gan Ferched Beca ym Mhontarddulais yn 1843.
Fe gymeron y llwybr wrth ochr y Fountain i ddechrau, a’i ddilyn am ryw hanner milltir lan rhiw y Gopa. Cyn disgyn i Gwm Dulais roedd modd gweld rhan gynta’r daith o’n blaenau, gyda Chwm Dulais yn ymestyn oddi tanom a chopa cefn Drum ochr arall y cwm. Ar ôl disgyn lawr i gwm Dulais fe ymuno’n a llwybr gwastad llydan. Roedd hwn yn dilyn yr hen reilffordd a wasanaethau lofeydd Graig Merthyr a Chefn Drum a safai ar lawr y dyffryn. Roedd hyd at 700 o ddynion yn gweithio yma cyn iddynt gau yn 1978.
Ar ôl dilyn y llwybr ar lawr Cwm Dulais am ryw hanner milltir, ac ar ôl cerdded drwy lecyn glaswelltog agored, dyma ni yn troi i’r chwith oddi ar y llwybr, gan esgyn ar hyd llwybr graeanog a throellog i ddechrau, wedyn dilyn llwybrau at gopa Cefn Drum. Yno safai Tŵr Maggie, sef carn gron fodern. Nid yw tarddiad yr enw yn hysbys, ond mae’n bosib bod hwn wedi ei leoli ar garnedd llawer hyn, a gellid gweld llawer ohonynt yn lleol.
Oedi fan hyn am funud neu ddwy i edmygu’r golygfeydd lawr dros Gwm Dulais tua’r gogledd ddwyrain, ag aber yr afon Llwchwr a Phenrhyn Gwyr tua’r de orllewin tu hwnt i Bontarddulais.
Cerdded ryw hanner milltir i’r gogledd ddwyrain wedyn ar lwybr clir tuag at Dwyn Tyle, gan ddisgyn rhywfaint allan o’r awel gref oedd ar gopa Cefn Drum, cyn aros am de deg, er ei bod wedi troi unarddeg erbyn hyn. Ymlaen wedyn at Dwyn Tyle (269m). Fe gyrhaeddom y copa yr un pryd a chawod drom o law, felly braf oedd disgyn nôl lawr tuag at Gwm Dulais, mas o’r gwynt, a’r glaw yn gostegu. Ymlwybro lawr at gwm Dulais wedyn, drwy redyn uchel i ddechrau, cyn disgyn at y cwm a chroesi’r afon, oedd mewn llif sylweddol ar ôl y glaw diweddar, dros bont droed. Dilyn y cwm am dipyn wedyn, ac ymlaen heibio fferm Tyle Coch, cyn cyrraedd y tir agored ac esgyn tuag at gopa Pentwyn mawr, heibio rai o felinau gwynt Mynydd y Gwair - Roedd y rhain yn gynhyrchiol iawn y diwrnod hwnnw.
Ar ôl cerdded dros dir agored a chopa Pentwyn Mawr, sef pwynt ucha’r daith (339m), roedd yn amser aros am ginio. Yn anffodus byr oedd ein harhosiad gan i gawod drom arall ddod, a gwell oedd symud mlaen na brechdanau soeglyd.
Ymuno â Llwybyr Sant Illtud wedyn, sef llwybr 64 milltir yn arwain o barc gwledig Pen-bre i barc gwledig Margam, a’i ddilyn nôl i Bontarddulais, ar draws ucheldir agored, dros Ben y Cwar (283 m) a bryngaer cyn-hanesyddol Graig Fawr (286 m). O’r ochr yma o’n taith cafwyd golygfeydd panoramig hyfryd o ddyffryn Llwchwr islaw, gyda’i throeon a sianeli ystumiol, tref Rhydaman a’r Mynydd Du, er ni ellid gweld copaon y Preseli ar y diwrnod.
Taith o ryw 11.5 milltir a 2,200 troedfedd o esgyn.
Diolch am gwmni Pens, Alison, Lynwen, Elin, Dewi, Helen, Digby, Meirion ac Eileen.
Adroddiad gan Eurig James
Lluniau gan Dewi ar FLICKR