Tarennau Meirionnydd 30 Medi
Dwsin dewr ddaeth i’n cyfarfod yng ngorsaf Abergynolwyn – dewr am fod rhagolygon y tywydd wedi gwaethygu dros nos ac yn darogan glaw trwm a gwyntoedd cryfion o ganol y bore ymlaen. Gyda hynny yn pwyso ar ein meddyliau roeddem wedi llunio tri chynllun. Cynllun A oedd dilyn y daith fel yr oedd wedi ei hysbysebu (taith 36 Copaon Cymru), cynllun B oedd mynd i’r copa cyntaf ac yna torri’r daith yn fyr a chynllun C oedd anghofio’r copaon a dilyn taith gron lefel isel o gwmpas y cwm. Pa un fyddai’r tywydd yn ganiatáu i ni ei gwneud?
‘Roedd rhan gynta’r daith yn ddigon hawdd. Roeddem yn dilyn llwybr cyswllt rhwng gorsaf Abergynolwyn a gorsaf Nant Gwernol, llwybr oedd yn mynd â ni drwy’r goedwig yn bennaf. Uwchben gorsaf Nant Gwernol mae’r llwybr yn ymuno hefo inclein Allt-wyllt, rhan o’r dramffordd oedd yn cario llechi o chwarel Bryn Eglwys at y rheilffordd ar lawr y dyffryn. Mae’r llwybr yn parhau i ddilyn y dramffordd wedyn tan cyrraedd Nant Moelfre lle mae’n troi ac yn dringo drwy’r coed at drac coedwigaeth.
Hyd yma roedd hi’n dal yn weddol sych, dim gwynt a’r cymylau yn uwch na’r copaon a roedd cyfle i dynnu llun y criw gyda Tharren y Gesail yn glir yn y cefndir. Wedi dilyn y trac coedwig am dipyn rhagor roeddem yn troi oddi arno a dringo’n serth ar lwybr cul i’r bwlch rhwng Mynydd Tan y Coed a Tharren Hendre. Yno cawsom gyfle am baned ac edmygu’r olygfa, ond gyda'r cymylau’n dechrau duo o’n cwmpas doedd dim amser i sefyllian gormod.
Mae yna gefnen eitha hir a serth rhwng y bwlch a chopa Tarren Hendre ac erbyn i ni gyrraedd y copa roeddem yn y cymylau, y glaw’n disgyn yn gyson a’r gwynt yn codi. Doedd dim amdani felly ond prysuro ‘mlaen heibio Pant Gwyn i chwilio am gysgod. Yn y bwlch cyn Moel y Geifr roedd yn hawdd troi i lawr i’r coed i gysgodi rhag y tywydd a chael tamaid o ginio mewn llecyn digon hudolus. Gyda’r rhagolygon i gyd yn dweud mai gwaethygu wnaethai’r tywydd, penderfynom mai troi’n ôl fyddai orau.
Aethom i lawr o’r bwlch drwy’r goedwig at olion hen chwarel Bryn Eglwys. ‘Roedd y chwarel yma’n cynhyrchu llechi rhwng tua 1845 a 1947 ac yn cyflogi hyd at 300 o ddynion. Perchennog y chwarel wnaeth sefydlu pentref Abergynolwyn drwy adeiladu tai i’r gweithwyr. O’r chwarel mae trac yn disgyn i lawr y dyffryn at Goed Hendrewallog ac yna llwybr hyfryd drwy’r coed ac ar hyd glan Nant Gwernol yr holl ffordd i Abergynolwyn. Er ei bod yn wlyb roedd hynny’n ychwanegu rhywsut at ramant y rhaeadrau bach a bwrlwm y nant. Wrth gyrraedd y pentref cawsom gyfle i ryfeddu at y rhesi twt o dai chwarelwyr, ac edmygu cerflun sy’n cynrychioli’r ddwy afon sy’n cyfarfod yn Abergynolwyn – y Gwernol a’r Dysynni.
Plan B ddaru ennill y dydd felly a bu raid gadael Tarren y Gesail at ddiwrnod braf. Y dewrion ddaeth hefo Aneurin a fi ar y daith oedd Erwyn, Ailinor, Alun, Dafydd, Huw, Sioned, Iolo, Gwen, Iolyn, Eirlys, Lisa a Carwyn (oedd ar ei daith gyntaf hefo’r Clwb). Rhai ohonynt yn lleol i’r ardal, ond eraill wedi teithio o bell. Diolch iddyn nhw am eu cwmni ac am eu parodrwydd i fod yn hyblyg gyda’r trefniadau.
Adroddiad gan Dilys.
Lluniau gan Aneurin a Sioned ar FLICKR