HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Pedol Cwm Pen Llafar 1 Mehefin


Daeth 11 ynghyd ym maes parcio Pantdreiniog, Bethesda ar fore hynod o braf. Ar y bore arbennig yma, roedd y maes parcio’n rhan o gylchdaith ‘boot camp’ i griw o bobl ifanc a oedd yn hanner noeth ac yn edrych yn heini dros ben. Fu bron i Aled, aelod cymharol newydd o’r Clwb, droi ar ei sowdl am ei fod yn meddwl mai aelodau Clwb Mynydda Cymru oedden nhw!

Cerdded drwy Gerlan ac anelu am geg Cwm Pen Llafar cyn troi i gyfeiriad Mynydd Du a’r ddringfa serth i gopa Foel Meirch. O fanno, gallu gweld ambell fynyddwr yn dringo’r Grib Lem. Erbyn hyn, roedd y cymylau’n mynd a dod ac ar brydiau’n cau amdanom; bendith ar ôl y ddringfa boeth. Yn dilyn paned, ymlaen â ni i gopa Carnedd Dafydd a oedd y eitha tawel.

Cerdded ar hyd cefn Ysgolion Duon cyn croesi Bwlch Cyfryw-drum a dringo i gopa Carnedd Llywelyn. Penderfynwyd bod angen llun o’r grŵp cyfan a thynnodd Keith ei bastwn enwog o’i fag i fynd i’r afael â’r dasg.

Ymlaen â ni i gyfeiriad Yr Elen a rhyfeddu at y golygfeydd o’n cwmpas. Da o beth bod Chris wrth law i rannu’r drysorfa o enwau lleol efo ni, e.e. Deigryn Llywelyn – nant sy’n llifo lawr llethrau Carnedd Llywelyn i Gwm Caseg. Oedi pellach ar y copa i gael paned cyn disgyn yn serth i lawr wyneb gorllewinol Yr Elen ac anelu yn ôl am Fethesda dros Foel Ganol a Braich y Brisgyll.

Mwynhaodd pob aelod o’r criw beint haeddiannol yn y Siôr i orffen ein diwrnod.

Diolch i’r criw hwyliog am eu cwmni: Aled, Chris, Hillary, Rhian, Keith, Rhys Dafis, Gwenlli, Gethin, Erwyn, Derfel a Sioned Llew (Y Siôr yn unig!).

Adroddiad gan Richard Roberts.

Lluniau gan Richard a Keith ar FLICKR