HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Yr Wyddfa 2 Ionawr


Rhaid cyfaddef fy mod yn cymryd rhyw bleser smala o feddwl mai fi, efallai, sydd yn dal y record o arwain y daith benwythnos efo’r nifer mwyaf arni (31 ar Rhobell Fawr, Tachwedd 2021). Naw yn unig oedd wedi mynegi diddordeb yn nhaith Calan draddodiadol y clwb i fyny’r Wyddfa eleni, a gyda mwy a mwy yn tynnu eu henwau’n ôl (nid oherwydd y tywydd ym mhob achos – un, coeliwch neu beidio, yn dewis mynd i chwarae golff!, trist iawn) roeddwn yn dechrau pryderu y byddwn yn gosod record na fedrai neb ragori arni; arwain taith heb neb arni!! Ond dyma gyrraedd Pen y Gwryd a chanfon un dyn bach (wel, mawr a dweud y gwir) yn aros amdanaf – Dafydd Legal yn barod amdani!

Roedd yn tywallt y glaw, ond erbyn cyrraedd Pen-y-pas roedd y gwaethaf drosodd ac er i ni gael glaw cyson drwy’r dydd doedd hi ddim gwaeth na chymedrol, a doedd dim gwynt o gwbl nes cyrraedd Bwlch Glas – a dim ond yn ysgafn wedyn. Gan ragdybio gwynt, cafwyd cinio cynnar o dan y bwlch a throi ar ein sawdl ar y copa, lle’r oedd rhyw gymaint o olygfeydd rhwng y cymylau, a chael ail damaid a phaned ger Glaslyn wrth ddilyn llwybr y Mwynwyr i lawr, wedi cerdded llwybr Pen y Gwryd i fyny.

Dafydd a minnau’n gytûn i ni gael diwrnod chwerth chweil a’r amgylchiadau ddim hanner cynddrwg â beth oedd y rhagolygon wedi ei awgrymu a chwblhawyd y daith gyfan mewn llai na phum awr. Er hynny, ni allwn honni mai ni oedd y cyntaf o’r clwb i gyrraedd copa’r Wyddfa eleni; o leiaf un aelod (Sandra, oedd yn ddigon ffodus i fod yn gweithio ar yr 2ail (!!) ac felly wedi cael tywydd gwell ar ddydd Calan) wedi cyrraedd y brig ddiwrnod o’n blaen.

Gwelwch o’r lluniau nad wyf yn hyderus y bydd fy enw ar restr fer llun gorau’r mis! Gwych iawn, yn ôl y disgwyl, yw safon y rhai buddugol.

Adroddiad gan Eryl Owain

Lluniau gan Eryl ar FLICKR