HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Moel Penolau/Ysgyfarnogod 2 Mawrth


Daeth 17 ohonom ynghyd yn y gilfan ger Glanywern ble y gwnaethom rannu’n bedwar grŵp i lenwi pedwar car i fynd i fyny nepell o Foel y Geifr, ble mae yna le parcio i nifer cyfyngedig o geir.

Cychwyn cerdded ar hyd hen ffordd drol tuag at Lyn Eiddew Bach a sydd yn mynd ymlaen at y gwaith mango (manganese) sy’n rhedeg o Lyn y Dywarchen (neu Bedol) at Lyn Du Bach. Roedd y tywydd yn braf ond yn oer, felly cymerwyd mantais o gysgod y gweithfeydd i gael paned gan fwynhau’r golygfeydd godidog o Ardudwy, Pen Llŷn, Eifionydd Portmeirion ac aber y Ddwyryd. Ymlaen â ni wedyn tuag at Lyn Du Bach, gan fynd dan greigiau trawiadol gyda phibonwy yn hongian oddi arnynt gydag eira dan draed erbyn hyn. Wrth gyrraedd Llyn Du Bach, daethom i olwg y dwyrain o’r mynyddoedd, sef, ardaloedd Trawsfynydd a Ganllwyd a phellach. Daw y ffordd drol i ben a rhaid mynd dros beth tir garw i gyrraedd y fraich am Foel Ysgyfarnogod, gan osgoi y man isel corsiog. Buan iawn y cyrhaeddwyd y copa ble roedd yr eira ychydig yn fwy trwchus. Roeddem mor ffodus i gael diwrnod mor braf i fod ar gopa Moel Ysgyfarnogod a chael golygfeydd bendigedig o Ben Llŷn, Crib Nantlle, Mynyddoedd Eryri, Y Moelwynion, Y Rhinogydd, gyda’r mynyddoedd yn edrych hardd yn eu gwisg o eira. Roedd yn edrych yn fwy cymylog tua’r dwyrain.

Roedd pawb yn awyddus i fynd ymlaen am Foel Penolau, sydd yn foel llawer mwy creigiog na Moel Ysgyfarnogod. Aethpwyd i fyny o’r ochr ddwyreiniol a chan fod ganddo ddau gopa, dewiswyd y copa mwyaf gogleddol. Dychwelwyd yr un ffordd yn ôl at Foel Ysgyfarnogod ond gan fynd i lawr oddi yno at gopa bychan sydd yn edrych i lawr ar Lyn Dywarchen er mwyn gweld ei siâp pedol. Disgyn i lawr wedyn at Lyn Dywarchen gan fynd lawr y grib greigiog a gweld mwy o olion cloddio am fango yno. Roedd y gwaith hwn yn gynhyrchiol rhwng 1892 ac 1897, gyda’r cyfnod mwyaf cynhyrchiol yn 1892 pan gloddwyd 1,145 tunnell.

Wedi disgyn i lawr oddi yno, rhaid oedd croesi cors fechan i gyrraedd llwybr llydan sydd yn mynd i gyfeiriad cylch cerrig anhygoel Bryn Cader Faner sydd oddeutu 2,000 CC oed. Er i’r cylch hwn sydd mewn siâp coron, gael ei ddifrodi fwy nag unwaith, mae’n dal yn hynod o drawiadol. Gwnaethpwyd twll yn y garnedd gan chwilwyr trysor yn y 19fed ganrif ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu milwyr yn defnyddio’r cerrig tra’n ymarfer saethu a chafodd rhai o’r cerrig eu symud.

Bu inni gerdded yn ôl oddi yno ar hyd ffordd hynafol o Oes yr Efydd gan weld mwy o gylchoedd cyntefig, ond llai trawiadol, ar y ffordd. Mae’r llwybr hwn yn rhan o Lwybr Taith Ardudwy erbyn hyn. Rhaid oedd troi i ffwrdd oddi arni cyn mynd yn ôl at y ceir.

Diolch i Elen, Rhiannon, Erddyn, Dafydd Jones, Erwyn, Gwyn Hughes, Richard, Dafydd Williams, Dei, Cheryl, Gwyn (Chwilog), Gwen (Chwilog), John Arthur, Huw Jones a Siân Shakespear am fod yn gwmni i Iolyn a fi ar y daith.

Adroddiad gan Eirlys Wyn Jones

Lluniau gan Eirlys, Elen a Siân ar FLICKR