Fan Hir 2 Tachwedd
Dyma pymtheg ohonom yn cyfarfod o dan arweiniad Guto ger Tafarn y Garreg wrth ochr yr A4067. Gan groesi heol brysur dyma ddechrau esgyn yn raddol ar hyd ffordd y Bannau i fyny Fan Hir. Yn anffodus,gan ei bod hi yn ddiwrnod digon tywyll a’r niwl yn isel nid oes posib mwynhau y golygfeydd o’n cwmpas. Roedd rhaid fod yn ofalus mewn ambell fan gan fod y llwybr yn gwyro ar adegau yn agos i’r ochrau serth yn esgyn lawr i’r Cwm.
Wedi cyrraedd Bwlch Giedd roedd hi’n amser paned a sgwrs. Roedd hi’n amser troi lawr i’r De Ddwyrain tuag at Llyn y Fan Fawr. Fel arfer byddai’r llyn oddi tanom i’w weld yn glir, ond heddiw roedd angen cyrraedd lawr at lan y llyn cyn ei weld.
Dyma barhau y daith gan ddilyn llwybr gymharol glir ond nid yn ymddangos ar fap OS gan ddilyn Nant y Llyn lawr y Cwm.
Erbyn hyn, roedd y niwl wedi codi a braf oedd medru gweld y wlad o’n cwmpas a mwynhau dilyn y nant gyda’i rhaeadrau hardd.
Ymlaen gan groesi yr afon Tawe a’r heol wledig sy’n arwain i Drecastell a chyraedd Bwlch Bryn-Rhudd.
Cinio yma gan benderfynu nad oedd digon o olau dydd gyda ni i esgyn I gopa serth Fan Gyhirych. Penderfynu felly, dilyn llwybr yr hen rheilffordd gynt o Abertawe i Aberhonddu am tua dwy filltir cyn troi fyny i’r Dwyrain ac amgylchynu y cwâr.
Gan ddilyn yn hen dramffordd dyma ddisgyn lawr heibio Canolfan Natur Ogof Ffynnon Ddu I hen bentref Penwyllt sydd erbyn hyn yn ganolfan i rai sy’n ymddiddori mentro i fewn ogofau - ardal hynod o boblogaidd i’r fath fenter.
Gan droi oddi ar y heol, dyma grwydro dros y caeau nôl i’r heol fawr a maes parcio Tafarn y Garreg.
Taith ddiddorol dros ben o ryw ddeuddeg milltir gyda esgyniad o thua 850 m.
Diwrnod da mewn cwmni difyr.
Adroddiad gan Dewi
Lluniau gan Dewi ar FLICKR