HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Sgrialu a cherdded o Ogwen 2 Tachwedd


Roedd yna ychydig mwy o gyffro na’r arfer wrth i’r criw ymgynull ym Mwthyn Ogwen ar ddydd Sadwrn yr ail o Dachwedd oherwydd roedd hi’n ben blwydd mawr ar aeold ffyddlon o’r clwb, roedd Sioned Llew yn 60!!

Dyma gychwyn o Fwthyn Ogwen yn griw hwyliog o 19 a dilyn y llwybr i fyny i Lyn Idwal. Y criw yn cynwys Gerallt, Gwyn, Sioned, Elen, Dylan, Anwen, Jano, Steve, Catrin, Gethin, Adrian, Sandra, Trystan, Iolo, Eryl, Gareth, Keith a Gaenor.

Yn fuan ar ôl cyraedd Llyn Idwal dyma adael y prif lwybr ac anelu am Hafn y Clogwyn Du cyn sgramblo fyny’r hafn i Gwn Cneifion. Ymlaen wedyn i fyny Crib y Clogwyn Du am gopa Glyder Fawr. O’r copa, daethom lawr y llwybr llai amlwg i’r dwyrain o’r prif lwybr, pawb yn cytuno fod y ffordd yma yn llawer brafiach na’r llwybr arferol i Lyn y Cŵn.

Ar ôl ffarwelio efo Catrin yn Llyn y Cŵn, ymlaen wedyn am gopa’r Garn lle cafwyd lymaid o fizz a cacen i ddathlu penblwydd Sioned. Chafo ni ddim gwrthdroad tymheredd ond ciliodd y cymylau ar y gopa a chafodd pawb weld bwgan y mynydd.

Foel Goch oedd ein trydydd copa a lawr wedyn dros grib Llymllwyd i Gwm Cywion cyn disgyn yn ôl lawr i Lyn Idwal a dod yn ôl i Ogwen drwy’r chwarel cerrig hogi.

Tri copa cyfarwydd i bawb ond rhan health o’r criw wedi cael troedio llwybrau newydd.

Cafwyd noson werth chweil yn goron ar ddathlu’r pen blwydd yng nglwb Criced Bethesda. Dymuniadau gorau i Sioned ar ei hymddeoliad – mae’r mynyddoedd yn galw!

Adroddiad gan Dwynwen Pennant.

Lluniau gan Gerallt ar FLICKR