HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Pedol Marchlyn o Fethesda 3 Chwefror


Roedd yn dipyn o newid cynllun funud olaf i mi yn sefyll i fewn dros Matthew ac arwain fy ail daith mewn 8 diwrnod.

Wedi edrych ar y rhagolygon cyn gadael y tŷ roeddwn braidd yn obeithiol y byddai'n parhau'n sych ar y cyfan gyda dim ond ambell gawod. Rhagolygon y diwrnod cynt oedd tywydd gwlypach. Dechreuodd y glaw yn fuan wrth i mi fynd i lawr i'n man cyfarfod ond cymerais mai cawod oedd hon. Cychwynnom drwy Barc Meurig a phenderfynu bod angen dillad glaw wrth i ni gyrraedd tomennydd chwarel y Penrhyn. Arhosodd rhain ymlaen am weddill y dydd felly roedd rhagolygon y bore yn gwbl anghywir! Ni chafodd ysbrydion eu llethu wrth i ni ddilyn y "llwybr" newydd i fyny i ben y linell zip. Fel arfer mae'n ddifyr gwylio pobl yn zipio lawr y wifren uwchben ond roedd y cyfan yn dawel heddiw oherwydd y tywydd.

Wrth i ni adael y trac ym mhen ucha’r chwarel gadawodd Sioned ni wrth iddi barhau gyda’i hadferiad. Mai tua 200 m o ddringfa oddi yma i gopa’r Fronllwyd er ei fod wedi teimlo’n uwch na hynnu dros dir grugog mewn gwynt a glaw. Dyma'r pwynt ble aeth yr ail am adre gyda Dafydd yn penderfynu mynd i lawr. Carom drafodaeth gyflym gyda'r grŵp a'r penderfyniad oedd i barhau. Ymlaen a ni i Garnedd y Ffiliast lle cawsom gysgod o'r gwynt am baned haeddiannol o de a chinio. Yn dilyn sgwrs am gwblhau'r daith roedd y cynnig i barhau i Fynydd Perfedd (cilomedr hawdd iffwrdd) yn opsiwn ond roedd distawrwydd y criw yn awgrymu ei bod yn amser troi am adre! Aethom i lawr o'r copa a disgyn yn serth i Lôn Las Ogwen yn Tyn y Maes gan ddychwelyd i Fethesda ychydig yn gynt na'r disgwyl

Diwrnod heriol mewn amodau anodd er bod gwen R wynebau pawb a gafodd fwynhau'r Man a Man Mwnci yn Nhy Mo ! 13 ohonom ar y daith i gychwyn a 11 ar y diwedd - Sioned, Owain,  Simeon (braf cael un o griw y De gyda ni), Alice, Dylan, Dafydd, Sandra, Anna, Keith, Dwynwen, Gerallt a Morgan (ar ei daith gyntaf). 

Adroddiad gan Stephen Williams.

Lluniau gan Gerallt Pennant a Steve ar FLICKR