HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243


Taith i Hawes, Swydd Efrog 6-10 Mai


Aeth 19eg ohonom i ardal Wennsleydale a thref farchnad Hawes  wedi pedair blynedd o oedi! Roeddem wedi trefnu i fynd ym mai 2020, ond daeth y pandemig a rhoi terfyn ar ein cynlluniau. Ond bu’n werth aros, a chawsom dywydd rhagorol mewn ardal hyfryd. Croesawyd ni yn eiddgar  gan Steve a’r criw yn hostel YHA Hawes, a chawsom ni ddim ein siomi yn eu gofal ac yn y ddarpariaeth.

Wedi cryn drafferthion teithio i nifer ohonom oherwydd traffig Gŵyl y Banc, roedd yn braf troi tua’r ucheldir fore Mawrth, gan ddilyn rhan o’r Penine Way i gopa Great Shunner Fell, cyn disgyn a croesi’r ffordd ger Bwlch Butter Tubs ac esgyn i Lovely Seat. Roedd y daith yn ôl, ac i lawr i Hardraw yn galed, ond roedd pawb yn falch i ni gael diwrnod o fynydda arbennig iawn.

Bore Mercher rhannwyd yn dair carfan, rhai yn mynd am gopa Pen y Ghent, eraill i gyfeiriad Bainbridge ac olion Rhufeinig yr ardal, gyda’r gweddill yn cael taith ysgafnach o Askigg  ar lwybr uwchben y dyffryn tuag at Simonstone a Hardaw eto. Diwrnod y bu i ni fynd trwy ddwsinau o  fylchau mewn waliau cerrig traddodiadol yr ardal. Coronwyd y diwrnod amser swper gyda’r newyddion da fod wŷr wedi ei eni i Eryl ac Angharad, a mawr oedd ein llongyfachion i Taid a Nain.

Bore Iau, aeth rhai i gyfeiriad Great Whernside,  eraill i wneud taith gymharol rhwydd , eto yn ardal Bainbridge. Aeth y gweddill ohonom i fyny rhan o’r Penine way tua’r de, gan amgylchynu Dodd Fell Hill, a dilyn y ffordd Rufeinig hyd at Wether Fell, cyn disgyn yn ôl i Hawes gyda golygfeydd godidog o’r “ dale”.

Bu’r tywydd yn eithriadol o garedig wrthym, a chyda cri’r gylfinir a chân y gornchwiglen yn fiwsig i’r glust, bu’n dridiau arbennig o gerdded, mewn cwmni da, gyda golygfeydd rhagorol. Diolch i’r aelodau am gefnogi ac am eu hynawsedd.

Adroddiad Gan Gwyn Williams

Lluniau gan Gwyn ac Eirlys ar FLICKR