Chwareli Cwm Penmachno a’r Manod Mawr 6 Gorffennaf
Cymylau a glaw oedd yn ein cyfarch wrth ini gyfarfod ger chwarel Rhiw Fachno, Cwm Penmachno at ein taith. Criw o 17 ohonom wedi troi i fyny a neb yn obeithiol iawn o’r tywydd yn gwella. Fodd bynnag, ysbeidiol fu’r glaw ar ein ffordd i olion chwarel Rhiw Fach a’r golygon yn fwy calonogol
Cawsom gipolwg ar geg y twnel a ddefnyddir gan un cwmni antur i arwain teithiau tan ddaearol yma, rhyfeddu hefyd ar olion diwydiant fu mor lewyrchus flynyddoedd yn ôl, sydd wedi trawsnewid cymaint ar gefn gwlad Cymru.
Ar ôl paned, ymlaen heibio chwarel y Manod sy’n dal yn gynhyrchiol y dyddiau yma, ac aros enyd wrth dwll chwarel a ddefnyddiwyd i storio trysorau Llundain yn ystod yr ail ryfel byd yn y 1940au.
Y tywydd a’r olygfa’n gwella wrth i ni nesau at ein prif gopa sef y Manod Mawr. Seibiant am ginio haeddiannol yng gnhysgod y garnedd cyn i gawod drom a chymylau trwchus ein hamgylchynu. Pasiodd y gawod reit fuan a’r cymylau yn ei sgil gan hwyluso’r daith i lawr.
Penderfynwyd peidio a dychwelyd y ffordd a nodwyd ar y daith oherwydd gwlypter y tir, ac yn hytrach ddychwelyd at Rhiw Fach a threulio peth amser diddorol yn ymchwilio ymysg yr hen adeiladau. Roedd yr haul yn tywynnu erbyn hyn wrth ini droedio’n ôl at ein ceir.
Diolch am gwmpeini difyr Eirwen, John Arthur, Paula a Gwyn, Gaenor, Iolyn ac Eirlys, Sandra, Huw Mallwyd, Dilys ac Aneurin, Eryl ac Angharad, Erwyn, Huw Pwllhel a Sioned. Diolch i John, Erwyn ac Eryl am eu cymorth yn ystod y daith, a Sioned am dynnu llunia.
Dymunwn yn dda i Gwyn nad oedd wedi gallu dod heddiw.
Adroddiad gan Eifion
Lluniau gan Aneurin, Sioned ag Eirwen ar FLICKR