Mynydd y Glyn 7 Awst
Taith Goffa Gareth Pierce (Eisteddfod Rhondda Cynon Tâf)
Gan taw ym Mhontypridd cynhelwyd yr Eisteddfod, braf oedd medru trefnu taith o gwmpas yr ardal. Hyfryd oedd cael cwmni criw o un ar hugain o ledled Cymru wedi ymgynnyll ger clwb Rygbi Pontypridd Heol Sardis ar fore bach digon cymysglyd o ran tywydd.
Cawsom ychydig o hanes yr ardal gan Penri Williams oedd wedi rhoi help llaw i mi drefnu’r daith. Mi esboniodd ein bod yn cychwyn ar hen safle waith glo y Maritime, un o saithdeg wyth pwll glo yn Ne Cymru pan oedd pethau yn eu hanterth.
Gan ddechrau trwy ddilyn llwybr beicio rhif pedwar (neu Llwybr y Ddraig, sydd y cychwyn ger Windsor ac yn gorffen yn Ty Ddewi, os hoffech taith o ryw 433 milltir) dyma ddringo digon hamddenol ar hyd heol Gelliwion i gyfeiriad y Gorllewin. Ymlaen tuag at Fferm Cefn Coed a Chwrt Langton, ble roedd y golygfeydd o’r ardal yn dod i’r amlwg. Gellir gweld lawr i’r Fro gyda ynys Echni jyst yn y golwg a draw tuag at Gwlad yr Haf.
Gan grwydro y tir a gored ac dros ambell i ffens, dyma gyrraedd y man uchaf o’r daith sef Mynydd y Glyn (375 m). Amser i gael paned fach a sgwrs i fwynhau y golygfeydd 360 gradd o’n cwmpas.
Gan droi i gyfeiriad y Gogledd dyma ddisgyn lawr dros hen dip glo gan bwyllo unwaith eto i fwynhau yr ardal o’n cwmpas. Ar draws y cwm roedd hen fferm ble magwyd Guto Nyth Bran i’w gweld yn ogystal a pont tref y Porth. O’r man yma roedd Cwm Rhondda yn ymestyn I fyny i’r Gogledd Orllewin gan rannu yn ddau – Rhondda Fawr i fyny thuag at Treorchi a Rhondda Fach tuag at Ferndale a Maerdy.
Dyma ddisgyn ymhellach lawr y cwm nes daethom i Ganolfan Treftadaeth y Rhondda lle hynod o ddidorol os cewch gyfle i ymweld. Penderfynodd ambell un o’r criw fanteisio ar y cyfle i ymweld a’r ganolfan a chael paned fach tra aeth y gweddill ohonom nôl ar hyd hen rheilffordd oedd ar un amser yn cario glo ac ati i borthladd y Bari. Gan barhau i ddilyn yr afon Rhondda, dyma gyrraedd pen y daith nôl i Heol Sardis.
Cyfle i rai wedyn fynd ati i ymweld â maes yr Eisteddfod neu cael paned yn y dref.
Taith o bron i ryw bedair awr, 464 m o esgyniad, tua 6 milltir a hanner o hyd mewn cwmni difyr.
Adroddiad gan Dewi.
Lluniau gan Dewi ac Eirwen ar FLICKR