HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Tarennau Meirionnydd 7 Medi


Ail gynnig oedd hon ar daith y Tarennau ar ôl i’r tywydd ein gorfodi i roi’r gorau i’r cynnig cyntaf - fis Medi llynedd - ar ôl un copa yn unig. Y tro hwn roedd rhagolygon y tywydd dipyn gwell, er ei bod yn addo niwl am sbel yn y bore.
Daeth pawb o’r dwsin oedd ar y daith i’r man cyfarfod yng ngorsaf drên Abergynolwyn yn brydlon erbyn 9.15 ac aethom mewn tri char i lawr i’r man cychwyn yn Nolgoch. Wrth gychwyn o’r fan honno roeddem yn cymryd llwybr gwahanol i fyny Tarrenhendre ac yn osgoi ail-droedio’r un tir â’r llynedd.

Cawsom gychwyn hyfryd drwy’r goedwig at raeadr Dolgoch, yna dringo at lwybr llydan oedd yn ein harwain i’r bwlch eang rhwng Mynydd Tan-y-coed a Tharren Nantymynach. Yma roedd rhaid croesi dwy ryd, yr un o’r ddwy yn drafferthus iawn. Wedi seibiant am baned, aethom yn ein blaenau ar hyd y llwybr llydan gan godi’n raddol nes bod raid troi oddi arno ac anelu yn syth am y copa. Erbyn hyn roedd y niwl yn chwyrlio o’n cwmpas a rhyfedd oedd gweld gwiwer yn eistedd ar bostyn ffens ar gopa’r mynydd.

Digon di-nod ydi copa Tarrenhendre – dim ond postyn pren mewn twmpath bach o gerrig ar lwyfan o fawn. Gan nad oedd unrhyw olygfa i’w chael yn y niwl aethom yn ein blaenau am Bant Gwyn. Cododd y niwl ac yn fuan roedd gennym olygfa braf o’r mynyddoedd. Cawsom ginio yn y bwlch cyn Moel y Geifr, ac am gyfnod daeth yr haul allan i wenu arnom. Aethom ymlaen wedyn dros Foel y Geifr ac i’r bwlch lle roedd Tarren y Gesail yn codi’n serth o’n blaenau.

Mae yna lwybr beics wedi ei naddu yn igam ogan i mewn i lethr y mynydd yr holl ffordd o’r blwch i’r copa ond dewis y llwybr byr, syth a serth wnaethom ni gan ddringo i fyny i gopa Tarren y Gesail. ‘Roedd y copa yma mewn niwl hefyd (y rhagolygon yn anghywir eto!) ond cawsom baned haeddiannol iawn wedi cyrraedd a nodi gyda siom y difrod oedd wedi ei wneud i’r piler triongli.

Rhan mwyaf anghysurus y daith oedd disgyn yn serth i lawr ochr orllewinol Tarren y Gesail, wedyn croesi cors ac ymladd ein ffordd drwy or-dyfiant o helyg, meiri a rhedyn nes cyrraedd chwarel Bryn Eglwys. O’r fan honno roedd yna lwybr hawdd unwaith eto i lawr y cwm, croesi pont dros Nant Gwernol a cherdded yn ôl drwy’r goedwig at ein ceir yng ngorsaf Abergynolwyn.

Diolch yn fawr i bawb am eu cwmni difyr dros gyfnod o 7½ awr, 11 milltir a 3,000’ o godi. Y cerddwyr oedd Meinir, Gethin, Sandra, Iolo, John Arthur, Eifion , Keith, Eirlys, Gwen, Erwyn, Aneurin a Dilys.

Adroddiad gan Dilys ac Aneurin Phillips.

Lluniau gan Aneurin ar FLICKR