HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Her y pymtheg copa Sadwrn/Sul 8/9 Mehefin


Am y tro cyntaf mewn tair mlynedd doedd dim sôn am storm yn rhagolygon tywydd penwythnos y 15 Copa ac felly dyma baratoi am ddiwrnod efo ambell i gawod a noswaith heulog braf.

Yn wahanol i r arfer cyfarfod yn Abergwyngregyn (3:00yb) a mynd am y 15 Copa ffordd groes” oedd y bwriad eleni. Y criw oedd Gethin, Siôn, Sonia, Trystan, Dwynwen, Erwyn, Sioned a Manon.

‘Doeddan ni heb gyrraedd Llyn Anafon cyn i r glaw ddechrau ac wn i ddim lle oedd y cawodydd oherwydd mi wnaeth fwrw yn ddi dor, unai glaw neu genllysg, ar hyd ein taith dros y Carneddau. Roedd Sioned ar ei thaith gyntaf dros y Carneddau ac yn anffodus welodd hi ddim byd. Roedd y gwynt mor gryf ac gopa Foel Grach roedd ambell un yn sbio arnai efo wyneb “yda ni am gario mlaen yn hwn”. Er i r niwl wneud y gwaith mordwyo yn anodd ac achosi trafferth cael hyd i r Elen, mi oedda i yn Ogwen o fewn saith awr. Wrth ddod lawr am Glan Dena fe gododd y cymylau ac ysbryd pawb a doedd dim mwy o sôn am fynd adra wedi hynny.

Roedd pawb yn falch o weld Gerallt yn disgwyl amdanon yn Glan Dena ac yn hyd yn oed fwy balch o r dillad sych oedd yn y car. Ar ôl seibiant, newid a bwyta dyma gychwyn fyny am gopa Tryfan. Mi ddaru Sioned ein gadael yn fan hyn gan ddymuno yn dda i ni am weddill y daith. Wrth ddringo roedd pawb yn dechrau trafod pa gyfeiriad oedd ora ganddyn nhw wneud 15 Copa a dechrau sylwi mor wahanol, er yn gyfarwydd, oedd y golygfeydd. Er nad oedd dringo’r sgri am Glyder Fach yn bleserus roedd pawb o r un farn fod hynny’n well na’r ffordd arall!

Ar gopa Elidir Fawr dyma weld Sioned Llew oedd wedi disgwyl i n cyfarfod efo paced o dda da ‘Wendy Worm’. Dwn i ddim os mai r cemegau yn y Wendy Worms neu y gorfoledd o gael mynd lawr Elidir Fawr, yn hytrach na r artaith arferol o i dringo, oedd yn tanio pawb ond mi aethom lawr i Nant Peris fel mellten ac yn cyfarfod Gerallt o fewn awr o r copa. Hyd yn hyn roedd pawb yn cytuno mai y ffordd yma oedd y ffordd ora i wneud 15 copa.

Erbyn hyn roedd pob cwmwl wedi diflannu a Nant Peris yn yr heulwen, pawb yn mwynau gorweddian a seibiant ond yn meddwl yn ddistaw bach am beth oedd i ddod. Ar ôl ychydig dros filltir ar y ffordd fawr, oedd ddim mor ddrwg ac oeddwn i wedi feddwl, dyma droi fyny am Gwm Glas a Crib Goch yn yn rhythu yn fygythiol o n blaenau. Does dim gair arall heblaw ‘slog’ i ddisgrifio’r rhan nesa o r daith, sef codi’n serth dros dir garw at droed crib ogleddol Crib Goch.

Mi oeddwn i yn grediniol y byddai pawb yn mwynhau mynd fyny r grib ogleddol ond roedd yna wahaniaeth barn. Hanner y criw o r farn ‘mae sgramblo yn llawer gwell na cerdded’ a r hanner arall yn fy melltithio. Nai ddim deud pwy oedd yn  gofyn am Imodium a trôns glân ar ôl cyrraedd y copa. Ar y copa cawsom y grib i ni n hunain ac efo r haul yn tywynnu a r golygfeydd yn odidog dwi n meddwl ges i faddeuant ond roedd yna ail feddwl pendant am pa gyfeiriad oedd orau i wneud 15 copa.

Cafwyd noswaith hyfryd yn mynd dros Crib Goch, Crib y Ddysgl ac am Yr Wyddfa gan gyrraedd copa r Wyddfa fel oedd yr haul yn machlud. Nes i drio deud mod i wedi cynllunio hyn o r cychwyn ond neb yn llyncu honna. Roedd wedi cymeryd ychydig dros 16.5 awr o r copa cyntaf i r olaf ac roedd pawb mewn hwyliau da iawn. Roeddwn wedi penderfynu mai Llwybr Cwellyn fyddai orau a lleiaf egniol i fynd lawr a pawb yn falch o gyrraedd maes parcio Cwellyn yn ddi drafferth.

Ynglŷn â r cwestiwn ‘pa ffordd ydi gora i wneud 15 copa?’ dyma r canlyniad - de i r gogledd 4, gogledd i r de 3.

Diwrnod gwych llawn hwyl a diolch yn fawr i r criw am eu cwmni. Diolch i pawb wnaeth symud ceir a ballu a diolch i Gerallt am ein cefnogi. Tan yr her nesa…

Adroddiad gan Dwynwen.

Lluniau gan Gerallt ac eraill ar FLICKR