HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Taith Pwll Du 8 Mehefin


Cafodd saith ohonon ni ddiwrnod wrth ein boddau yn mwynhau tywydd ardderchog a chwmni hwyliog ar daith gylch ar lan y môr. Ar y llwybr uwchben Rotherslade, rhoddodd Alison groeso arbennig i Gwen ar ei thaith gyntaf gyda chriw’r De, a hefyd i’r ‘hen’ ffrindiau, Dewi, Pens, Rhun, Eileen ac Elin.

Dechreuon ni ar hyd y llwybr rhwng baeau Langland a Caswell ac yna i Goed yr Esgob; dyffryn collddail ger Caswell sydd â threftadaeth ddiwydiannol ddiddorol. Yma, gadawodd Alison ni (ailymunodd wedyn â’r daith yn Langland) ac aeth y gweddill ymlaen gan gerdded drwy faestref Llandeilo Ferwallt a disgyn i'r cwm eponymaidd.

Mae Cwm Llandeilo Ferwallt yn llecyn coediog braf, yn goedwig law dymherus yn wir, sy’n tua 6-7 km o hyd. Fe’i dilynwyd ar ei hyd gan weld nifer o nodweddion daearegol diddorol ar y ffordd, fel Lower Daw Pit, a ffurfiwyd wrth i do ogof ddymchwel. Mae cornant yn diflannu dan ddaear wrth lifo oddi ar siâl ac ar draws calchfaen yn y dyffryn. Wedyn, mae’n codi’r i’r wyneb drwy sawl tarddell cyn llifo i’r môr ym Mae Pwll-du yn y pen draw. Buom yn chwilio am epiffytau, sef rhedyn, mwsoglau a chennau sy’n tyfu ar y coed yn hytrach nag yn y pridd.

Bwytawyd ein cinio ar greigiau uwchlaw traeth Pwll-du, sy’n ddrwg-enwog am ei gysylltiad â smyglo. Ceir rhagor o wybodaeth yn y llyfr ardderchog Pwll Du Remembered gan Heather Holt, ISBN 0 9529165 0 9.

Wedyn roedd hi’n bryd dychwelyd gan gerdded ar hyd llwybr yr arfordir gyda’i flodau gwyllt hyfryd a manteisio ar y llanw isel i groesi traethau Brandy Cove (mwy o smyglo a hen fwynglawdd plwm), Caswell, Langland a Rotherslade.
Cawson ni dywydd braf gydol y daith ac er nad oedd unrhyw fynyddoedd, roedd tipyn o esgyn a disgyn dros y 10 milltir a chawsom amrywiaeth o dirweddau a golygfeydd trawiadol.

Roedd diweddglo cofiadwy i’r daith – aethon ni i gyd draw i Lluest sy’n edrych dros draethau Rotherslade a Langland, a chael lluniaeth hyfryd gan Alison. Mwynhaodd y cwmni yn llygad yr haul gan wybod ein bod ni wedi cael diwrnod i’w gofio.

Adroddiad gan Elin.

Lluniau gan Dewi ar FLICKR