HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Coed Cerrig y Frân Nant Ffrancon 8 Mehefin


Dyma deg ohonom, sef Lowri, Eirwen ac Alun, Gwen (Chwilog), Janet Buckles, Gwenlli, Gwyn (Chwilog), Nia Wyn a Sandra yn ymgynnull ym maes parcio Pant Dreiniog Bethesda mewn glaw mawr trwm, nes i bawb gorfod heglu nôl i’w ceir am gysgod o ffasiwn glaw. Wedi’r arllwysiad o law sydyn, anelu i ddal y bws T10 o’r orsaf bws ger Neuadd Ogwen am 09.25. Fel maent yn ddweud, “os ddim bws, mae sawl bws”. Mi gaethom dair bws i gyd gyda'i gilydd, a fedrith rwy’n mentro, fel mae’r byd yn troi, y bws olaf roedden “ni” ei angen. Ar y bws iawn yn ddiwedd, ac am Ben y Benglog a bant a ni.

Ar gyrraedd Pen y Benglog, yn disgwyl amdanom oedd John Arthur, wedi iddo feddwl ymlaen a pharcio yn Betws y Coed i ddal y bws i’n cyfarfod.

Cychwyn yn swyddogol wedyn o Ben y Benglog i lawr rhan o’r Llwybr Llechi yn hytrach nag dilyn Rheadr Ogwen a glan yr Afon Ogwen,  hyn trwy fod yna gymaint o law yn yr awr gynharach, fasa'r caeau gwyrdd wedi ein gwlychu cyn cychwyn yr elfen ddringo

Oerni a gwynt gaethom wrth anelu i lawr Llwybr Llechi, nes cyrraedd y man troi a dringo ar droed ceunant a thir lithriad Cwm Coch. Mymryn o seibiant wrth edrych ar y ddringfa o’n blaen, a ffwrdd a ni mewn haul cynnes braf erbyn hyn. Ar gyrraedd y bwlch ac agoriad i Gwm Coch, troi i'r chwith a dilyn y llwybr llwynog at y man “panad” cyntaf i gael eistedd a manylu ar y golygfeydd cyntaf o’r diwrnod o’r silf’ uwchben y fferm Blaen y Nant. Yn anfoddus, toedd y gwynt ddim am ein cefnogi yn ein bwriad, gwynt oer a cymedrol cryf gaethom, felly newid y lleoliad i lethr gyda silf’ fach i ein cysgodi wrth edrych ar Ben y Ole Wen, Pont y Benglog, Tryfan, a gweddill Nant y Benglog, ac wrth gwrs, y lôn wreiddiol gaeth ei adeiladu gan yr Arglwydd Penrhyn yn yr 18fed ganrif, ac wedyn ei uwchraddio gan Mr Thomos Telford yn 1810 i 1826 i’w throi yn lon bost a phriffordd i Ddulyn. 

Taith weddol ddiddigwyddiad wedyn ar hyd y llwybr llwynog, wrth adael i'r aelodau newydd gael mymryn o flas sgrialu haws ac mewn haul braf. Ceunant Cywion wedyn a fyny a ni am y man cinio uwchben Llyn Cywion. Wedi’r cinio ddi-frys a sawl sgwrs difir, lawr a ni yn hamddenol am lwybr Y Garn o Lyn Idwal ac yn ôl i’r man cychwyn ger y “Siop Coffi Orau” yng Nghanolfan Cwm Idwal. Yma wnaeth chydig ohonom, wahanu i gael mynd i weld y bont wreiddiol a'r gyntaf drost yr Afon Ogwen uwchben yr rheadr Ogwen, ac wedyn y ddau ychwanegol gaeth ei adeiladu wedyn. 

Diolch i bawb am ei chwmni a sgyrsiau difir wrth basio'r diwrnod

Adroddiad gan Keith Roberts.

Lluniau gan Keith a Gwyn ar FLICKR