HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Dyffryn a Chreigiau Aberedw 9 Mawrth


Daeth chwech ohonom ynghyd ar ddiwrnod sych ond cymylog ym maes parcio Canolfan Grefftau Hen Orsaf Erwyd oddi ar y A470 i’r de o Lanfair-ym-Muallt.

Dechrau yn gyntaf gyda dringfa gweddol serth trwy ddilyn llwybr yng nghanol rhedyn i gopa Garreg Fawr gyda golygfa o Greigiau Aberedw i’w gweld i’r gogledd. Yna dilyn y grib tuag at Creigiau Aberedw (324 m). Dyma man uchaf taith y bore. Ar ddiwrnod braf mae golygfeydd hyfryd o ddyffryn Gwy ac i law tuag at y Bannau, ond ddim cymaint heddi!

Wrth i ni ddechrau disgyn i lawr ochr y creigiau, dyma ni’n sylwi fod Ogof Llywelyn yn weddol agos, ar lan afon Edw. Gweddol hawdd oedd ei ffeindio, gyda digon o arwyddion bach syml (gweler lluniau Dewi). Dyma’r man, yn ôl yr hanes, i Llywelyn dreulio ei noson olaf.

Yna, gweithio ein ffordd yn ôl i’r llwybr a dilyn gwaelod y creigiau i lawr i’r heol fach sy’n arwain at Aberedw. Croesi’r heol ac yna i fewn i warchodfa natur Y Nyth ar lannau’r afon Gwy. Wedyn dilyn yr afon ar hyd llwybr braf am hanner milltir tan i ni gyrraedd nôl i’r maes parcio am ginio.

Taith y prynhawn oedd cerdded ar hyd ‘Y Skreen’ ac yna dringo’n serth i gyrraedd Twyn y Garth (325 m). Ar y copa mae olion amlwg hen fryngaer; rhywbeth i ddisgwyl efallai ar ben bryn. Ond, beth oedd yn annisgwyl oedd gweld hen ddryll mawr wrth ymyl y fryngaer. Howitzer Almaenig o’r Rhyfel Byd Cyntaf. Gosodwyd y dryll gan Mrs Lionel Trafford ym 1920 er cof am ei brawd ac eraill a fu farw yn y rhyfel.

Disgyn yn raddol wedyn ac yn ôl i’r maes parcio am baned a theisen.

Cylchdaith o 9.5 milltir ac esgyn tua 2400 troedfedd.

Yn cerdded oedd Rhun, Dewi, Eurig, Pwt, Digby a Paddy.

Adroddiad gan Rhun

Lluniau gan Dewi ar FLICKR