HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Foel Fras a Drum 9 Tachwedd


Cyrhaeddodd bymtheg ohonom yn maes parcio wrth droi oddi ar yr A55 yng ngwaelod Abergwyngregyn ar fore Sadwrn sych a weddol gynnes i fis Tachwedd. Aethom ar hyd y ffordd drwy'r pentref gan ddringo i fyny tuag at fferm Hafod Garth Celyn i ymuno â'r trac sy'n rhedeg ar hyd Afon Anafon i’r llyn. Stopio yn fyr i edrych ar gorlan defaid siap diddorol yn waelod y cwm. Gwnaethom gynnal cyflymder cyson i gyrraedd  Llyn Anafon ar gyfer paned cyflym cyn esgyn y llwybr serth trwy’r gors i fyny i Fwlch y Gwryd.

Roedd y niwl wedi tewhau wrth i ni droi a mynd tua'r de-orllewin tuag at Foel Fras nid oedd y copa i'w weld bellach a pawb yn teimlo gostyngiad sylweddol mewn tymheredd.

Dim ond amser am lun cyflym cyn ail-olrhain ein traciau yn ôl i Fwlch y Gwryd a pharhau ar hyd ffordd y Cambrian i’r Drum am ginio haeddiannol iawn. Dihangodd y niwl yn raddol wrth i ni fynd i lawr y trac tuag at y ffordd Rhufeinig cyn troi i'r gorllewin ar hyd crib ddwyreiniol Cwm Anafon gan ddringo Pen Bryn Du, Yr Orsedd , Foel Canol ac yn olaf Moel Dduarth, rhain yn llai o fynyddoedd na'r rhai cyntaf yn y diwrnod ond golygfeydd arbennig o arfordir Sir Fon.

Cyrhaeddon ni yn ôl i'r maes parcio am 4:15 yn union fel y dechreuodd y golau bylu.

Diolch i Dilys, Aneurin, Keith, Paula, Gwyn R, Sue, Elen, Meinir, Gareth, Dafydd, ddwy Nia, Alice a Gwyn H  am eich cwmni yn ystod y dydd.

Adroddiad gan Dylan Evans

Lluniau gan Aneurin ag Elen ar FLICKR