De Penrhyn Gŵyr 10 Chwefror
Dyma ddeg o gerddwyr (Pwt, Dewi ,Digby, Helen, Eurig, Elin, Rowena, Rhun, David ac Alison (yr arweinydd) yn cyfarfod ym maes parcio creigiau Pennard (SS5539 8743). Croeso mawr i David ar ei daith gyntaf gyda ni
Teithion ni tua'r Gorllewin i Fae y Tri Chlogwyn, lle cawson ni sgrambl bach trwy fwa enwog y tri chlogwyn (gweler y llun).
Dyma groesi nant Pennard Pill dros y cerrig camu (gan basio tystiolaeth o goedwig ddiflanedig o dan ein traed) gyda'r bwriad o deithio ar y traeth o gwmpas Tor Mawr ond gan nad oedd y llanw wedi mynd mas digon i wneud hynny roedd rhaid penderfynu cadw at y tir sych.
Dilynwyd llwybr am ychydig tra'n mwynhau'r golygfeydd gwych o Tor Bay ac Oxwich. Aethon ni heibio bryngaer ar y penrhyn, yna dyma fynd tuag at goedwig hynafol Nicholaston a Perriswood. Cawsom ginio yn Perriswood cyn dringo'r bryn uchaf ar Benrhyn Gŵyr, sef Cefn Bryn.
Cyn hir dyma gyrraedd Penmaen a dilyn y cwm i Gastell Pennard a'r meysydd golff. Yn ôl i’r cychwyn, ac i gloi mwynhawyd coffi, cacennau a chlecs, (a phleser mawr oedd cwrdd â Iestyn bach a'i fam, ŵyr a merch Dewi).
Gan ddiolch i bawb am y cwmni difyr.
Adroddiad gan Alison
Lluniau gan Dewi ar FLICKR